Mae astudiaeth beilot fechan wedi canfod bod gwylio ffilmiau gwybodaeth iechyd byr ar-lein, trwy ffôn clyfar neu lechen, yn gallu helpu cleifion sydd â diabetes math 2 i leihau lefel eu glwcos gwaed.
Cafodd cyfres o ffilmiau byrion eu ‘rhagnodi’ i bobl a oedd newydd gael diagnosis o ddiabetes math 2, ochr yn ochr â thriniaethau safonol, a hynny gan feddyg teulu neu nyrs practis mewn dau bractis meddyg teulu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.
Roeddent yn cynnwys teitlau fel ‘What is diabetes?’; ‘What can I eat?’; ‘Diabetes and weight’; ‘Looking after your feet’; ‘Stopping smoking’; a ‘Medication and monitoring’.
Ar ôl dim ond 3 mis, dangosodd profion rheolaidd welliant arwyddocaol yn glinigol o ran HbA1c – marciwr sefydledig ar gyfer rheoli diabetes. Ar y llaw arall, ni welwyd gostyngiad o ran HbA1c yn y rhai nad oeddent wedi gwylio’r ffilmiau.
Dywedodd sefydlydd yr astudiaeth, Dr Sam Rice, Meddyg Ymgynghorol ac Endocrinolegydd yn Ysbyty Tywysog Philip, a Dirprwy Gyfarwyddwr Ymchwil a Datblygu ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae presgripsiynau digidol yn annog pobl i gyrchu gwybodaeth iechyd arbenigol, cyngor ymarferol a chefnogaeth emosiynol o gysur eu cartref eu hunain”.
“Gall cleifion a gofalwyr wylio pob ffilm ysgogiadol gynifer o weithiau ag sy’n ofynnol ac, yn hollbwysig, ar adeg pan fo’r unigolyn yn wynebu her iechyd newydd,” meddai.
Ychwanegodd Dr Rice, “Gyda hunanreoli gan y claf yn cael ei gydnabod fel triniaeth gynyddol bwysig, mae’n galonogol gweld bod yr ateb cost isel a phosibl hwn yn cyrraedd llawer mwy o gleifion nag a fyddai’r achos fel arall.
“Trwy ragor o ymchwil, efallai y byddwn hyd yn oed yn gweld bod llwyddiant y broses o wylio ffilm yn dod yn gam i hwyluso ac annog pobl sy’n byw â chlefyd cronig i fynychu rhaglenni addysgol mwy strwythuredig.”
Cynhaliwyd yr astudiaeth gan Brifysgol Abertawe, a hynny ar y cyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Cafodd ei chefnogi hefyd gan raglen Hyrwyddwyr Clinigol Diabetes UK.