Monday, June 5, 2023
Ymgynghorydd o Hywel Dda yn rhedeg rhwng meddygfeydd yng Nghaerdydd er mwyn codi ymwybyddiaeth o ddiabetes math 2

Ymgynghorydd o Hywel Dda yn rhedeg rhwng meddygfeydd yng Nghaerdydd er mwyn codi ymwybyddiaeth o ddiabetes math 2

MAE ymgynghorydd o Hywel Dda wedi addo helpu i godi ymwybyddiaeth o ddiabetes math 2 trwy redeg rhwng 30 o feddygfeydd o amgylch Caerdydd yr wythnos nesaf i gefnogi Diwrnod Diabetes y Byd.

Bydd yr endocrinolegydd ymgynghorol Dr Sam Rice yn dechrau ei her am 8am o swyddfa Diabetes UK Cymru cyn mynd rhedeg i feddygfeydd ledled y ddinas. Ymunwch â chefnogwyr Diabetes UK Cymru a phobl sy’n byw gyda’r cyflwr ar wahanol gamau ar hyd y llwybr.

Ym mhob meddygfa bydd Dr Rice yn darparu gwybodaeth ar PocketMedic, sef cyfres o ffilmiau sydd â’r nod o leihau eich risg o ddatblygu diabetes math 2. Mae’r ffilmiau wedi’u creu gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol a phobl sy’n byw gyda diabetes ac maent yn cwmpasu ystod eang o bynciau, o ddeiet ac ymarfer corff i feddyginiaeth a monitro.

Dywedodd Dr Rice: “Mae’r ystadegau sy’n ymwneud â diabetes math 2 yng Nghymru yn destun pryder mawr. Mae un o bob pedwar ohonom naill ai â’r cyflwr neu mewn perygl o’i ddatblygu, sy’n golygu bod pob un ohonom yn gwybod am rywun sydd wedi’i effeithio.

“Roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth i godi ymwybyddiaeth o’r mater cynyddol hwn ac amlygu bod pethau y gall pobl eu gwneud i leihau eu risg neu hyd yn oed wrthdroi eu risg.”

I noddi Dr Rice, ewch i www.justgiving.com/fundraising/sam-rice3.

Os ydych chi’n poeni am eich risg o ddatblygu diabetes math 2, defnyddiwch yr offeryn ar-lein Diabetes UK ‘Know Your Risk’, sydd am ddim i’w ddefnyddio. Mae’n cyfrifo eich risg yn seiliedig ar ffactorau allweddol megis oedr, rhyw, pwysau ac ethnigrwydd. Ewch i www.diabetes.org.uk/risk.

Am fwy o wybodaeth ar PocketMedic ewch i:http://ehealthdigital.co.uk/video/introducing-pocketmedic-how-to-use-for-patients/neu info@pocketmedic.org.

You May Have Missed

You are in breach of copyright
%d bloggers like this: