MAE Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn ymdrechu’n ddi-flino i sicrhau meddygon teulu ar gyfer rotas Tu Allan i Oriau yn Sir Gaerfyrddin wrth agosau at y penwythnos hwn.
Mae’r bwrdd iechyd yn ei chael hi’n gynyddol anodd i staffio rotas, a’r penwythnos diwethaf arweiniodd hyn at gau’r gwasanaeth am gyfnod dros dro yn Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli.
Mae’r gwasanaeth wedi ailgychwyn fin nos a thros nos yn ystod yr wythnos hyd yn hyn, ond er gwaethaf ymdrechion mae rotas heb eu llenwi ar gyfer min nos Iau a Gwener yn Ysbyty Tywysog Philip. Ac hyd yn hyn, nid yw’r rota ar gyfer min nos Wener yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin, wedi’i lenwi chwaith. Bydd yr ymdrechion di-flino i lenwi’r rhain yn parhau hyd y funud olaf un a bydd diweddariadau yn cael eu darparu i’r cyfryngau ac hefyd i’w gweld ar wefan a chyfryngau cymdeithasol y bwrdd iechyd.
Meddai Joe Teape, Cyfarwyddwr Gweithrediadau BIP Hywel Dda: “Dymunaf ymddiheuro am unrhyw bryder neu anghyfleustra a achosir oherwydd materion staffio parhaus yn y Gwasanaeth Meddyg Teulu y Tu Allan i Oriau. Ar hyn o bryd, mae hon yn duedd gyfarwydd ymhlith byrddau iechyd eraill ar draws Cymru. Gwyddom fod pob aelod o’n staff a’n meddygon teulu yn gweithio’n galed iawn i ddarparu gwasanaethau diogel ar gyfer ein cleifion a rydym yn gwerthfawrogi hyn. Rydym yn cyd-weithio ar draws ardal gyfan y bwrdd iechyd ac ar draws gwasanaethau gwahanol i ddarparu rhwyd ddiogelwch ar gyfer ein cleifion.”
Mewn achosion lle nad yw rota wedi’i lenwi, mae gwasanaethau gofal iechyd eraill megis unedau mân anafiadau, llinell 111 a fferyllfeydd cymunedol yn parhau i fod ar gael. Os oes angen i rywun weld Meddyg Teulu wyneb-yn-wyneb yn dilyn asesiad gan feddyg teulu dros y ffôn, efallai bydd gofyn iddynt deithio i sir gyfagos o fewn ardal Hywel Dda i weld y Meddyg Teulu agosaf sydd ar gael (gallai hyn fod yn Ysbyty Glangwili neu Ysbyty Tywysog Philip os bydd un o’r rotas yn cael ei lenwi, neu Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd neu Feddyg Teulu arall yn unol â chyfarwyddid gweithredwr gwasanaeth llinell 111).
Mae’r bwrdd iechyd yn parhau i weithio’n agos gyda Meddygon Teulu partner ar draws yr ardal er mwyn ceisio datrys y sefyllfa hon. Ar hyn o bryd, nid oes gan unrhyw un o’r rotas yn ein hysbytai eraill gapasiti ychwanegol i’w gynnig. Byddwn yn cyd-weithio’n agos â phartneriaid megis Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a gwasanaeth llinell 111, a all gynghori cleifion ar yr hyn i’w wneud yn ôl eu hanghenion clinigol.
Os ydych chi’n byw yn Sir Gaerfyrddin ac yn sâl tu allan i oriau dyda’r nos a’r penwythnos, gallwch wneud nifer o bethau:
* am wybodaeth a chyngor iechyd, yn cynnwys gwiriwr symptomau ar-lein, trowch at Galw Iechyd Cymru: www.galwiechydcymru.wales.nhs.uk
* ffonio 111 – gall y gwasanaeth hwn helpu eich cyfeirio at y gwasanaeth cywir, er enghraifft Meddyg Teulu, nyrs, fferyllydd neu Uned Mân Anafiadau, mae hefyd yn darparu gwybodaeth iechyd ar hunan-ofal ar gyfer ystod eang o gyflyrau, os yw’n briodol
* defnyddio fferyllfa gymunedol – mae gan rai o’r rhain wasanaethau ychwanegol megis ‘brysbennu a thrin’ ar gyfer trin mân gyflyrau, yn cynnwys Fferyllfa Porth Tywyn
* mân anaf – gallwch ymweld ag Uned Mân Anafiadau Ysbyty Tywysog Philip, sydd ar agor 24/7
* DIM OND mewn argyfwng ac mewn cyflwr difrifol sy’n bygwth bywyd y dylech ffonio 999
Ychwanegodd Mr Teape: “Iechyd y cyhoedd yw ein prif flaenoriaeth ac er na allwn weithiau gyflawni popeth yr ydym yn dymuno ei gyflawni, rydym yn gwneud ein gorau glas i sicrhau y gallwn barhau i ddarparu gwasanaethau sy’n ddiogel a chadarn i’n cymunedau lleol.”