Mae arweinwyr iechyd yn Ne-orllewin Cymru yn dadorchuddio’r cynllun gwasanaethau canser pwrpasol cyntaf ar gyfer pobl ledled y rhanbarth cyfan.
Mae Byrddau Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Hywel Dda wedi dylunio ffordd integredig a strategol ymlaen ar gyfer gwasanaethau canser anlawfeddygol i’r filiwn o bobl yn y rhanbarth dros y degawd nesaf.
Mae’n cwmpasu pob agwedd ar wasanaethau canser – ar wahân i lawdriniaeth – o ddarparu triniaethau oncoleg, cemotherapi a radiotherapi i gymorth emosiynol a gofal ôl-ganser.
Bwriad y strategaeth gydgysylltiedig newydd yw gwella mynediad i ofal a fydd yn lleihau amseroedd aros, lleihau teithio diangen trwy ddarparu llawer mwy o ofal canser mewn cymunedau lleol, gwneud y defnydd gorau o’r dechnoleg ddiweddaraf, cynnig mwy o gyfle i gleifion gael y cyffuriau a’r triniaethau diweddaraf, a gwella profiad cyffredinol cleifion. Bydd hefyd yn tyfu, yn cefnogi ac yn hyfforddi gweithlu canser clinigol y dyfodol.
Y datblygiad yw un o’r prosiectau trawsnewid gwasanaethau mawr cyntaf i ddeillio o ARCH (Cydweithrediad Rhanbarthol ar gyfer Iechyd), sef partneriaeth unigryw rhwng y tri sefydliad.
Bydd y Strategaeth Canser Anlawfeddygol newydd ar gyfer De-orllewin Cymru yn cael ei chyflwyno cyn hir mewn cyfarfodydd bwrdd yn y ddau Fwrdd Iechyd Prifysgol. Mae’n benllanw cyfres o weithdai a oedd yn cynnwys nid yn unig clinigwyr a rheolwyr y GIG, ond cleifion a sefydliadau gwirfoddol a chymunedol hefyd.
Dywedodd Philip Kloer, Cyfarwyddwr Meddygol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:
“Gyda’n gilydd – trwy gydweithio yn y rhanbarth hwn – gallwn drawsnewid y gofal, y driniaeth a’r gwasanaethau a ddarparwn i wasanaethau canser yn Ne-orllewin Cymru.”
Dywedodd Dr Delia Pudney, Oncolegydd Clinigol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg:
“Rydym yn siarad yn aml am ganolfannau rhagoriaeth. Byddwn yn hoffi meddwl bod modd darparu rhagoriaeth yn lleol hefyd. Er bod y ganolfan yn cynnig arbenigedd dwys, ein rôl yw datblygu, cefnogi a chynnal rhagoriaeth leol.”
Dywedodd Cadeirydd Bwrdd Rhaglen ARCH, Andrew Davies: “Mae hyn yn enghraifft o waith partneriaeth go iawn a fydd o fudd gwirioneddol i gleifion canser. Mae hefyd yn dangos nad yw ARCH yn ymwneud yn unig ag adeiladau newydd neu ddatblygiadau mawr, ond yn hytrach gwneud y defnydd gorau o’n hadnoddau cyfun a meddwl mewn ffordd fwy cyfannol o lawer fel rhanbarth.
“Mae’n gosod y glasbrint ar gyfer yr agweddau anlawfeddygol ar wasanaethau canser yn Ne-orllewin Cymru dros y deng mlynedd nesaf. Wrth gwrs, ni fydd y cyfan yn digwydd dros nos, ond ni fydd yn hir cyn i gleifion a’u teuluoedd ddechrau gweld manteision y dull hwn o gydweithio.”
Dywedodd Cadeirydd Hywel Dda, Bernadine Rees: “Canser yw un o brif achosion marw cyn pryd yng Nghymru, ac mae nifer y bobl sy’n cael diagnosis yn cynyddu. Wrth i’n poblogaeth heneiddio, mae’r galw am ofal canser yn cynyddu.
“Mae llawer o gynnydd wedi’i wneud yn y blynyddoedd diwethaf o ran cyfraddau goroesi, ond mae’r strategaeth newydd yn cydnabod yr angen i wneud mwy byth.”
Yn Ne-orllewin Cymru, mae’r rhan fwyaf o’r gwasanaethau canser anlawfeddygol yn cael eu darparu ar hyn o bryd trwy fodel ‘prif ganolfan a lloerennau’, gyda Chanolfan Canser De-orllewin Cymru yn Ysbyty Singleton Abertawe yn brif ganolfan, wedi’i chefnogi gan nifer o ganolfannau triniaeth dan arweiniad nyrsys, sef y ‘lloerennau’ sydd wedi’u lleoli mewn ysbytai lleol ledled y rhanbarth.
Yn y dyfodol, bydd y brif ganolfan yn cael ei datblygu ymhellach – yn enwedig o ran triniaeth radiotherapi arbenigol – a bydd y ‘lloerennau’ yn chwarae rôl fwy o lawer. Ni fydd angen i gleifion mewn ardaloedd gwledig deithio mor bell mor aml ar gyfer oncoleg a thriniaethau canser eraill, oherwydd bydd mwy ar gael yn agosach i le y maent yn byw, ac weithiau yn eu cartrefi eu hunain.
Bydd gwasanaethau cymunedol yn cael eu rheoli i’r un safonau â chanolfan arbenigol o ran staffio, addysg a chymorth, a bydd mwy o ddefnydd yn cael ei wneud o unedau symudol, gan leihau’r angen i gleifion deithio.
Bydd clinigau a gwasanaethau eraill hefyd yn cael eu trefnu er mwyn ystyried materion cludiant, yn enwedig mewn ardaloedd lle nad oes llawer o gludiant cyhoeddus.
Bydd y defnydd o dechnoleg ddigidol yn cynyddu er mwyn galluogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i roi cymorth i gleifion ddydd a nos saith niwrnod yr wythnos; yn ogystal â chynnal mwy o glinigau rhithwir.
Mae’r strategaeth yn galw am rôl fwy gweithredol i gleifion yn eu gofal, ac am adeiladu rhwydweithiau cymorth lleol.
Mae yna gynlluniau ar gyfer triniaeth radiotherapi arbenigol, a fydd yn cael ei darparu yn y ‘brif ganolfan’, ac a fydd ar gael saith niwrnod yr wythnos drwy gydol y flwyddyn. Mae’r rhaglen uchelgeisiol hefyd yn gobeithio datblygu gwasanaeth radioisotop therapiwtig i leihau’r angen i gleifion deithio y tu allan i’r rhanbarth ar gyfer y gofal arbenigol hwn. Mae hefyd yn anelu at ddarparu therapi pelydr proton rywbryd yn y dyfodol.
Bydd gan gleifion well gyfle yn y dyfodol i gael amrywiaeth o’r triniaethau mwyaf datblygedig. Mae Canolfan Canser De-orllewin Cymru eisoes wedi’i sefydlu fel arweinydd o ran treialon clinigol, ac mae Prifysgol Abertawe yn gartref i’r cyfleuster Ymchwil Glinigol ar y Cyd sy’n cynnwys gweithgareddau delweddu a threialon clinigol ar gyfer ymchwil ac arloesi.
Trwy ARCH, bydd gan gleifion canser well mynediad i ymchwil arloesol sy’n dod i’r amlwg. Mae cael poblogaeth o filiwn o bobl yn rhanbarth ARCH yn agor y drws i gleifion i fwy o dreialon clinigol ar gyfer y triniaethau diweddaraf.
Ei nod yw bod yn arweinydd ym maes addysg, ymchwil ac arloesi ledled ein gwasanaethau, gan ddarparu gofal sydd ar flaen y gad o ran technolegau newydd ac ymchwil.
Mae meddygaeth bersonol a’r defnydd o genomeg (disgyblaeth feddygol sy’n dod i’r amlwg sy’n cynnwys defnyddio gwybodaeth genomig am unigolyn fel rhan o’i ofal clinigol) hefyd yn cynnig cryn addewid o ran cynnig triniaeth i gleifion sy’n gwbl bwrpasol ar eu cyfer nhw.
Mae’r strategaeth hefyd yn cydnabod bod angen gwneud mwy i wella ansawdd bywyd pobl sydd wedi cael diagnosis o ganser, yn ogystal â chynnig mwy o gymorth i gleifion canser ar ôl i’w triniaeth glinigol ddod i ben. Bydd rolau newydd fel cydlynwyr gofal yn cael eu datblygu, a bydd mwy o gysylltiadau yn cael eu gwneud â sefydliadau yn y sector gwirfoddol.