Wednesday, May 31, 2023
Y Canolbarth yn “smotyn du” o ran pwyntiau gwefru cerbydau trydan

Y Canolbarth yn “smotyn du” o ran pwyntiau gwefru cerbydau trydan

Pic: Wiki Commons

Mae angen i Lywodraeth Cymru ymdrin â’r “smotyn du” o ran pwyntiau gwefru cerbydau trydan yn y Canolbarth, dywedodd Ysgrifennydd Cabinet cysgodol Plaid Cymru dros yr Amgylchedd Simon Thomas.

Dywedodd Simon Thomas ei bod yn amhosib ar hyn o bryd deithio o ogledd i dde Cymru mewn cerbyd trydan ac ail-lenwi en route am nad oes pwyntiau gwefru sydyn y tu allan i goridorau’r M4 a’r A55.

Dywed Simon Thomas os yw Llywodraeth Cymru am gwrdd â’u targed i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o 40% erbyn 2020, yna mae darparu seilwaith digonol i gerbydau trydan yn hanfodol.

Meddai Ysgrifennydd Cabinet cysgodol Plaid Cymru, Simon Thomas:

Simon Thomas

“Er y dylem fod yn gwneud popeth yn ein gallu i leihau ein hôl troed carbon, rhwng 2009 a 2015 fe gododd allyriadau carbon mewn gwirionedd o 0.5% y flwyddyn ar gyfartaledd. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae allyriadau o drafnidiaeth yng Nghymru wedi codi, felly rydym yn sôn am rywbeth sydd mor sylfaenol â’r aer a anadlwn.

“Ond yn lle’i gwneud mor hawdd ag sydd modd i bobl newid eu harferion trafnidiaeth, mae’r Llywodraeth Lafur wedi methu darparu seilwaith digodol ar gyfer ceir trydan. Mae’n chwerthinllyd na allwch deithio o ogledd i dde Cymru mewn car trydan ac ail-lenwi en route.

“Mae’r prif bwyntiau sydd ar gael at ddefnydd y cyhoedd ar hyd yr M4 yn y de a’r A55 yn y gogledd. Er bod y Grŵp Leader, Arloesi Gwynedd, wedi gwneud gwaith clodwiw i geisio gwella’r ddarpariaeth ym Meirionnydd, mae’r Canolbarth fwy neu lai yn smotyn du. Dylai Llywodraeth Cymru yn wir fod yn arwain y ffordd o ran gwella seilwaith dros Gymru gyfan.

“Mae cerbydau trydan yn cynnig ateb tymor-hir posib i wella ansawdd yr aer, ac y mae angen i Lywodraeth Cymru fuddsoddi ynddynt os ydynt o ddifrif am greu dyfodol glân a gwyrdd i’r genedl.”

You May Have Missed

You are in breach of copyright
%d bloggers like this: