GAN fod y tywydd oer eithafol a’r amodau gaeafol yn nesáu, anogir trigolion i sicrhau eu bod wedi paratoi.
Disgwylir y bydd y tywydd hwn yn achosi trafferthion ledled y sir ac mae’n debygol y bydd yn effeithio ar nifer o wasanaethau’r cyngor dros yr wythnos nesaf.
Bydd ein timau graeanu yn ymateb yn ôl y tywydd, wrth inni barhau i dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf am y tywydd ar gyfer yr wythnos sydd i ddod.
Bydd yr holl ysgolion sydd ar gau wedi’u rhestru ar ein gwefan a bydd yr ysgolion yn diweddaru’r rhestr yn rheolaidd. Sicrhewch eich bod yn edrych ar y dudalen ynghylch ysgolion sydd ar gau drwy argyfwng i gael y wybodaeth ddiweddaraf am amhariadau ar ysgolion ac ysgolion sydd ar gau.
Cynghorir trigolion sy’n poeni am eu gallu i gadw eu cartref yn gynnes yn ystod y cyfnod hwn o dywydd oer y bydd taliadau’n cael eu gwneud yn awtomatig i’r rheiny sy’n gymwys i gael cymorth. Fodd bynnag, mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys gwybodaeth am sut i wirio hyn, ar gael ar ein gwefan, www.sirgar.llyw.cymru