Thursday, June 8, 2023
Trigolion Hwlffordd – mae angen gwneud newidiadau i’ch gwasanaethau GIG, a dyma eich cyfle i ddweud eich dweud

Trigolion Hwlffordd – mae angen gwneud newidiadau i’ch gwasanaethau GIG, a dyma eich cyfle i ddweud eich dweud

MAE trigolion Hwlffordd a’r fro yn cael eu gwahodd i digwyddiad galw-heibio cyhoeddus i drafod ein cynigion i newid yn sylfaenol y ffordd yr ydym yn darparu gwasanaethau gofal iechyd ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol.

Cynhelir y digwyddiad rhwng 2pm a 7pm yn Adeilad Archifau Sir Benfro, Hwlffordd SA61 2PE ar ddydd Mawrth 26 Mehefin 2018. Dyma eich cyfle i ddweud eich dweud ar ein cynigion neu i rannu syniadau newydd â ni.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi lansio “Trawsnewid ein Gwasanaeth Iechyd,” ymgynghoriad 12-wythnos â’r nod o wella darpariaeth iechyd a gofal yn lleol ar gyfer ein cymunedau.

Rydym yn gofyn i drigolion ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, yn ogystal â’r rhanbarthau trawsffiniol ehangach, i fod yn rhan o hyn ac i ddweud eu dweud ar y tri chynnig i wella’r ffordd yr ydym yn darparu gofal ar gyfer ein poblogaeth. Ein clinigwyr sydd wedi cynllunio a phrofi pob un o’r cynigion, er mwyn sicrhau bod ein gwasanaethau’n ddiogel, yn gynaliadwy, yn hygyrch ac yn garedig ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol.

Mae Bwrdd Iechyd y Brifysgol am gysylltu yn arbennig ag unigolion nad ydynt fel arfer yn cymryd rhan mewn adborth ymgynghori, neu sydd, yn draddodiadol, yn cael eu tan-gynrychioli mewn adborth ymgynghori o’r fath, gan gynnwys, ymhlith eraill,  pobl anabl, LGBTQ+, pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, grwpiau oedran gwahanol, pobl o wahanol ffydd neu sydd heb ffydd, dynion, a phobl o oedran gweithio. Mae Bwrdd Iechyd y Brifysgol hefyd yn awyddus i glywed gan unrhyw asiantaethau gwirfoddol neu asiantaethau’r trydydd sector sy’n cefnogi grwpiau a warchodir.

Meddai Steve Moore, Prif Weithredwr Hywel Dda: “Gallai ein cynigion ar gyfer newid effeithio ar bob un yn ein hardal – yn fabanod a phobl hŷn a phob un yn y canol – felly rydym yn gofyn i bob un ohonoch i ddweud eich dweud. Rydym am glywed wrth ein cleifion, gofalwyr, perthnasau a’r miloedd o bobl sy’n gweithio i’r Bwrdd Iechyd.

“Y llynedd, gwnaethom ddechrau sgwrs gyda’n poblogaeth, ein staff a’r bobl yr ydym yn cyd-weithio â nhw i ddarparu gofal, i archwilio i’r hyn sy’n bwysig i bob un ohonom ac i feddwl ar y cyd am y ffyrdd gorau i redeg gwasanaethau. Credwn mai gyda’n gilydd yw’r ffordd gywir i fynd ati i gynllunio ein gwasanaethau. Gwnaethom ymchwilio i’r cyfleoedd y credwn sydd ar gael i ni trwy feddygaeth fodern, datblygiadau mewn technoleg a’r disgwyliadau sydd gennych chi am welliannau.

“Gwnaethom hefyd nodi’r heriau sylweddol y mae’r Gwasanaeth Iechyd yn eu hwynebu ac sy’n rhaid i ni fynd i’r afael â nhw er mwyn sicrhau ei fod yn ffynnu ac yn darparu ar eich cyfer chi a’ch teulu, yn awr ac i’r dyfodol. Golyga hyn bod yn rhaid i ni wneud penderfyniadau ynghylch ble y gallwn ddarparu gwasanaethau, a gwybod y bydd yn rhaid cyfaddawdu, er mwyn i ni wneud y defnydd gorau o’n hadnoddau.”

Ymhlith yr heriau mwyaf sy’n wynebu’r bwrdd iechyd ar hyn o bryd mae poblogaeth sy’n heneiddio, nifer o bobl yn profi anawsterau i gael mynediad i wasanaethau yn agos at adref, heriau recriwtio sylweddol – yn enwedig staff meddygol arbenigol – a hen adeiladau ysbyty sydd angen llawer o gynnal a chadw.

Er mwyn goresgyn yr heriau hyn, rydym am wneud newid radical i’r ffordd yr ydym yn darparu gwasanaethau gofal iechyd lleol fel bod pobl yn cael y rhan helaeth o’r gofal a’r driniaeth sydd eu hangen arnynt yn eu cymuned leol, a fel bod pobl yn medru aros adref tra’u bod nhw’n cael triniaeth yn hytrach na gorfod mynd i ysbyty. Bydd lleihau’r nifer o brif ysbytai’n golygu llai o rotas meddygol i’w llenwi, gan wneud y dasg o ddenu clinigwyr i ddod i weithio i ni yn haws; bydd hefyd yn golygu amserau aros byrrach, llai o ganslo a mwy o arian ar gyfer gwasanaethau lleol a chymunedol.

Ym mhob un o’r tri chynnig, bydd Ysbyty Cyffredinol Dosbarth Bronglais yn parhau i ddarparu gwasanaethau i’r canolbarth; byddwn yn adeiladu prif ysbyty newydd rhywle rhwng Arberth a San Clêr, a bydd 10 hyb cymunedol ar draws ardal y Bwrdd Iechyd.

Dyma’r cynigion:

Cynnig A

  • Ysbyty gofal brys a gofal wedi’i drefnu newydd rhwng Arberth a San Clêr
  • Ysbytai cymunedol yng Nglangwili, Tywysog Philip a Llwynhelyg
  • Ysbyty cyffredinol yn Aberystwyth ar safle Ysbyty Bronglais

Cynnig B

  • Ysbyty gofal brys a gofal wedi’i drefnu newydd rhwng Arberth a San Clêr
  • Ysbytai cymunedol yng Nglangwili a Llwynhelyg
  • Ysbytai cyffredinol yn Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli ac yn Aerystwyth ar safle Ysbyty Bronglais

Cynnig C

  • Ysbyty gofal brys newydd rhwng Arberth a San Clêr
  • Ysbyty gofal wedi’i drefnu ar safle Glangwili
  • Ysbyty cymunedol yn Llwynhelyg
  • Ysbytai cyffredinol yn Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli ac yn Aberystwyth ar safle Ysbyty Bronglais

Ychwanegodd Dr Phil Kloer, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol a Chyfarwyddwr Strategaeth Glinigol Hywel Dda: “Mae’r heriau a wynebwn yn rhai sylweddol iawn. Mae pobl yn byw’n hirach, rhai ohonynt â chyflyrau iechyd hir-dymor, ac rydym yn disgwyl gweld llawer mwy o bobl hŷn y bydd arnynt angen gofal iechyd a gofal cymdeithasol rheolaidd.

“Yn ein hardal, mae rhai pobl yn byw mewn trefi a rhai yn byw yn y wlad, sy’n ei gwneud hi’n anodd sicrhau bod gwasanaethau yn y lle cywir i bobl eu defnyddio. Mae nifer o bobl yn byw ymhell oddi wrth wasanaethau, felly gall helpu pobl i fyw adref pan maen nhw’n cael triniaeth olygu llawer o deithio i weithwyr iechyd.

“Gwyddom bod pobl eisiau cael eu cefnogi i reoli eu hiechyd yn eu cartrefi eu hunain – mae tua 4 o bob 10 gwely ysbyty yn cael eu llenwi gan bobl a allai gael eu trin adref. Yn ogystal, rydym yn ei chael hi’n anodd denu digon o staff parhaol, yn enwedig staff meddygol arbenigol, i ddod i weithio i ni, ac mae angen i ni hefyd wneud defnydd llawnach o dechnoleg newydd megis cyfrifiaduron, ffonau, teleiechyd a teleofal.

“Dyma’r rhesymau dros benderfynu ar ein tri chynnig y credwn sy’n ddiogel, yn bosibl yn ariannol ac yn cynnig gwelliant i’r hyn sydd gennym yn bresennol, ac rydym yn ymgynghori’n ffurfiol dros 12-wythnos i’w cyflwyno i chi, i siarad â chi, i wrando arnoch ac i ystyried eich barn a’ch syniadau.

“Mae pob un ohonom yn angerddol dros y Gwasanaeth Iechyd, ein gwasanaethau, ein hanes a’n staff, ac rydym am ddefnyddio’r angerdd hwn i gyd-weithio â chi yn y dasg o gynllunio’r gwasanaeth iechyd gorau posibl ar gyfer ein poblogaeth. Rydym yn ddiolchgar iawn i’r rhai hynny ohonoch sydd eisoes wedi bod yn rhan o hyn fel cleifion, staff ac aelodau o’n cymunedau.”

Bydd eich adborth yn cael ei ddadansoddi’n annibynnol a’i ystyried cyn cyflwyno unrhyw gynnig ffurfiol i’n Bwrdd Iechyd am benderfyniad ar sut i fwrw ati yn nes ymlaen yn 2018, a byddwn yn parhau i’ch diweddaru ar ein defnydd o adborth.

Cofiwch ddweud eich dweud yn y ffyrdd canlynol:

Llenwi’r holiadur ar-lein: www.bihyweldda.wales.nhs.uk/trawsnewidhdd

Ebostio: hyweldda.engagement@wales.nhs.uk

Ffonio: 01554 899 056

Dod i un o’n digwyddiadau galw-heibio:

Dydd Mawrth 26 Mehefin 2pm-7pm / Adeilad Archifau Sir Benfro, Hwlffordd SA61 2PE

Dydd Llun 2 Gorffenaf 2pm-7pm / Neuadd Fictoria, Llanbedr Pont Steffan SA48 7EE

Dydd Iau 5 Gorffenaf 2pm-7pm / Canolfan Cymdeithasol Pill, Aberdaugleddau SA73 2QT

Dydd Llun 9 Gorffenaf 2pm-7pm / Neuadd Tymbl, Tymbl SA14 6HR

You May Have Missed

You are in breach of copyright
%d bloggers like this: