Monday, March 27, 2023
Trafodaethau partneriaeth Parc Howard

Trafodaethau partneriaeth Parc Howard

MAE Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Tref Llanelli mewn trafodaethau ynghylch rheoli Parc Howard yn y dyfodol.

Mae cynrychiolwyr o’r ddau gyngor wedi cytuno ar gyfres o gyfarfodydd i ystyried sut y gellir bwrw ati â threfniadau cydweithio er mwyn cynnal a gwella’r parc.

Rhoddir sylw i gynigion blaenorol ar gyfer y parc, yn ogystal â syniadau newydd i sicrhau ei ddyfodol yn y tymor hir o dan berchenogaeth y cyhoedd.

Ar hyn o bryd, caiff y parc a’r amgueddfa eu rheoli a’u cynnal gan Gyngor Sir Caerfyrddin ar ran pobl Llanelli a’r ardal ehangach.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Rwy’n croesawu’r cyfle hwn i barhau â’r trafodaethau partneriaeth a’r gobaith yw sicrhau trefniant cydweithio parhaol gyda Chyngor Tref Llanelli.”

Dywedodd y Cynghorydd Jan Williams, Arweinydd Cyngor Tref Llanelli: “Ein bwriad yw helpu i ariannu’r gwaith o reoli a gwella Parc Howard, a fydd yn helpu i sicrhau bod rhagor o welliannau’n cael eu gwneud i’r cyfleuster hwn, sy’n un pwysig i Lanelli. Ymhen amser, efallai y bydd hyn yn rhoi bod i sefyllfa lle gwelir y cyngor tref yn rheoli’r cyfleuster yn llawn. Yn y cyfamser, rwy’n edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth â’r cyngor sir.”

You May Have Missed

You are in breach of copyright
%d bloggers like this: