Sunday, March 26, 2023
Taith ffasiwn Masnach Deg Graddedig

Taith ffasiwn Masnach Deg Graddedig

MAE gwraig raddedig mewn ffasiwn o Goleg Sir Gâr yn teithio i India i ddysgu sgiliau technoleg gwisgoedd megis torri patrymau, graddio a datblygu cynnyrch i weithlu a gyflogir gan gwmni moesol a chynaliadwy i helpu ymladd heriau masnachu anfoesol.

Nicola Ridd-Davies yw cyfarwyddwr creadigol cwmni Visible Clothing, ffatri fasnach deg yn Dharmashala, India, sy’n cyflogi 35 o weithwyr.

Hefyd mae hi’n hunangyflogedig ac yn rhedeg ei busnes ei hun, The Little Stitchery, yn dysgu torri patrymau a gwniadwaith, a darparu cymorth dylunio technegol i ddylunwyr Prydain.

Mae Nicola, a oedd gynt yn dechnolegydd dillad a thorrwr patrymau ar gyfer y brand Cymreig TOAST, yn frwdfrydig ynghylch masnach deg. “Rwy’n helpu i ehangu sgiliau technegol y gweithlu i bontio’r bwlch rhwng dylunio a chynhyrchu,” meddai.

“Mae eu sgiliau llunio yn hollol ffantastig ac mae yna lawer o botensial yno, felly byddai’n wych i’w helpu i fod yn fwy cynaliadwy fel busnes a chynyddu eu cleientiaid a’u hamrywiaethau cynnyrch.”

Mae gweithwyr yn y ffatri’n derbyn cyflogau teg mewn amgylchedd hapus, cysurus lle caiff gyrfaoedd a thwf sgiliau eu meithrin ac anogir pob person i gyfrannu syniadau ar gyfer symud y cwmni ymlaen.

Meddai Paula Phillips, pennaeth Ysgol Gelf Caerfyrddin Coleg Sir Gâr: “Rydym wrth ein boddau bod Nicola’n gwneud mor dda ac yn cefnogi masnach deg yn ei gwaith.

“Roedd hi’n fyfyrwraig radd neilltuol a ddychwelodd i weithio gyda ni yn yr adran ffasiwn ac rydym i gyd yn dymuno’r gorau oll iddi yn India.”

You May Have Missed

You are in breach of copyright
%d bloggers like this: