Cymerodd Simon Thomas, Aelod Cynulliad Plaid Cymru ran yn rhaglen drafod newydd BBC Wales, ‘The Hour’, yng Nghasnewydd, Gwent nos Lun i drafod mewnfudo.
Yn dilyn y rhaglen dywedodd Simon Thomas, AC y Canolbarth a’r Gorllewin:
“Mae mewnfudo wedi bod yn fater dadleuol yn y gorffennol ond mae Cymru, fel cenedl, yn elwa ohono.
“Y drychineb yw bod polisïau canolog Llundain wedi arwain at bolisïau ar fewnfudo sydd wedi niweidio economi Cymru. Rydym angen system sy’n gweithio inni, yma yng Nghymru, a dyna pam mai cred Plaid Cymru yw y dylem gyflwyno FISA Gymraeg i roi diwedd ar brinder sgiliau.
“Bydd Plaid Cymru’n creu gwasanaeth Mudo i Gymru i sicrhau bod mudo’n cyrraedd anghenion Cymru ac yn cyflwyno rhestr prinder sgiliau o grefftau a sgiliau nad ydynt yn cael eu diwallu gan weithwyr Cymru ar hyn o bryd.
“Wnaiff targedau dibwys wedi eu seilio ar rifau sydd wedi eu tynnu o’r awyr wneud dim dros ein anghenion economaidd a chymdeithasol fel y gwnaiff sicrhau bod ganddo ni ddigon o ddoctoriaid a nyrsys yn ein hysbytai a bwyd ar ein byrddau.”
Yn ein sector amaeth hanfodol, mae 65% o weithwyr yn ddinasyddion di-DG, yn dod o’r UE, ac mae tua 80% o weithwyr tymhorol sydd yn cael eu cyflogi yma yn dod o’r UE.
Yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol, o fis Medi 2015, roedd tua 1,140 o genedlaetholwyr yr UE yn cael eu cyflogi gan y GIG yng Nghymru, gyda 6% o’n doctoriaid wedi hyfforddi yn yr UE.