Tuesday, March 28, 2023
Symud Ymlaen yn Sir Gaerfyrddin – cynllun pum mlynedd

Symud Ymlaen yn Sir Gaerfyrddin – cynllun pum mlynedd

MAE bwrdd gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin wedi amlinellu bron i 100 o brosiectau blaenoriaeth, cynlluniau neu wasanaethau y mae’n bwriadu eu cyflawni dros y pum mlynedd nesaf.

Cafodd y cynllun – Symud Ymlaen yn Sir Gaerfyrddin – ei lansio heddiw (8 Ionawr 2018) gan arweinydd y cyngor, y Cynghorydd Emlyn Dole.

Mae’n nodi’r prif feysydd buddsoddi a gwella y bydd aelodau’r bwrdd gweithredol yn eu gyrru yn ystod gweddill eu cyfnod yn eu swyddi, yn ogystal â gweithredu gwasanaethau’r cyngor o ddydd i ddydd.

Maent yn cynnwys – o ran yr amgylchedd – cynlluniau i wneud Sir Gaerfyrddin yn brif sir beicio Cymru, gwella’r seilwaith ffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus, lleihau ôl troed carbon y cyngor, cefnogi mentrau ffermio cynaliadwy a gwella cyfraddau ailgylchu’r sir.

O ran addysg, mae cynlluniau i ddarparu buddsoddiad pellach o £129 miliwn yn y Rhaglen Moderneiddio Addysg, gwneud y defnydd gorau o gyfleusterau ysgolion i gefnogi gweithgareddau cymunedol, ymgysylltu â rhagor o bobl ifanc a symud ysgolion ar hyd continwwm y Gymraeg.

Ym maes gofal cymdeithasol a thai, mae’r bwrdd gweithredol yn bwriadu datblygu strategaeth digartrefedd, gwireddu ei ymrwymiad i ddatblygu 1,000 o dai fforddiadwy gan roi pwyslais ar sicrhau bod tai gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto ac adeiladu tai newydd, cryfhau’r ddarpariaeth Gymraeg mewn lleoliadau gofal cymdeithasol, darparu rhagor o gymorth i ofalwyr a lleihau unigrwydd ymhlith pobl agored i niwed a phobl hŷn.

Mae’r buddsoddiad a gynlluniwyd yn narpariaeth hamdden y sir yn cynnwys datblygu cyfleusterau newydd a phresennol, gan gynnwys canolfannau hamdden, Harbwr Porth Tywyn a Pharc Gwledig Pen-bre.

Mae adfywio Sir Gaerfyrddin yn nodwedd allweddol. Mae strategaethau trawsnewid yn canolbwyntio ar wella canol trefi Llanelli, Rhydaman a Chaerfyrddin, llain arfordirol y sir, ardaloedd twf allweddol fel Cross Hands ac ardaloedd gwledig.

Yn benodol, mae’r bwrdd gweithredol eisiau sicrhau bod Sir Gaerfyrddin yn manteisio’n llawn ar gyfleoedd a fydd yn cael eu creu drwy Fargen Ddinesig Bae Abertawe sy’n werth £1.3 biliwn.

Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole: Er bod llywodraeth leol yn wynebu cyfnod ansicr oherwydd toriadau llym mewn gwariant cyhoeddus, mae’r cyngor yn parhau i ddarparu cannoedd o wasanaethau o ddydd i ddydd i drigolion Sir Gaerfyrddin ac ymwelwyr â’r sir.

“Fel bwrdd gweithredol, rydym wedi nodi nifer o brosiectau a rhaglenni allweddol y byddwn yn ymdrechu i’w cyflawni dros y pum mlynedd nesaf. Drwy gyflwyno’r prosiectau a’r rhaglenni hyn credwn y gallwn gyfrannu at sicrhau mai Sir Gaerfyrddin yw’r lle gorau i fyw a gweithio ynddo ac i ymweld ag ef.

“Bwriad ein cynllun uchelgeisiol yw mynd ati’n gyson i wella lles economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol y sir a thrwyddo byddwn yn sicrhau bod ein trigolion, ein cymunedau, ein sefydliadau a’n busnesau yn cael eu cefnogi a’u galluogi i ddatblygu a ffynnu er budd ein sir.”

Bydd adroddiadau ac argymhellion manwl ynghylch prosiectau a rhaglenni penodol yn cael eu cyflwyno drwy brosesau democrataidd y cyngor dros y pum mlynedd nesaf.

Gallwch ddarllen y cynllun pum mlynedd llawn ar wefan y cyngor – www.sirgar.llyw.cymru

You May Have Missed

You are in breach of copyright
%d bloggers like this: