Mae Prif Weithredwr Hywel Dda, Steve Moore, wedi canmol staff a chlinigwyr sy’n gweithio yn Unedau Mân Anafiadau ac Asesu Meddygol Acíwt Ysbyty Tywysog Philip, wrth i ffigurau newydd ddangos eu bod yn rhagori ar dargedau perfformiad ac yn arwain y ffordd o ran meddygaeth fodern.
Disgrifiodd Mr Moore yr ysbyty yn Llanelli fel testun balchder i’r Bwrdd Iechyd, ar ôl iddo ddod yr unig safle acíwt yng Nghymru i guro targed cenedlaethol y GIG i drin 95 y cant o gleifion o fewn pedair awr, gan gynnwys yn ystod cyfnod anodd y gaeaf.
Agorodd yr Uned Asesu Meddygol Acíwt a’r Uned Mân Anafiadau y llynedd, a hynny fel rhan o brosiect Blaen y Tŷ gwerth £1.4m y Bwrdd Iechyd, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru. Ers hynny, mae’r ysbyty wedi cyrraedd targedau’n gyson ar gyfer amseroedd rhyddhau cleifion, amseroedd aros, a’r amseroedd cyfartalog y mae cleifion yn cael eu cadw yn yr ysbyty – er gwaethaf y ffaith i’r ysbyty weld cynnydd yn nifer y derbyniadau brys.
Mae’r prosiect wedi bod mor llwyddiannus fel bod yr ysbyty’n boddi mewn ceisiadau gan uwch-glinigwyr a thimau rheoli ledled y DU, sy’n awyddus i ymweld er mwyn deall sut y mae cleifion yn Llanelli a thu hwnt yn elwa ar y llwybrau gofal clinigol newydd.
Wrth annerch staff yn ystod ymweliad â’r ysbyty, dywedodd Mr Moore: “Dylech fod yn falch iawn ohonoch eich hunain – rydych yn destun balchder i Hywel Dda. Ysbyty Tywysog Philip yw’r unig ysbyty yng Nghymru i gyrraedd y targed o 95 y cant drwy gydol y flwyddyn ddiwethaf – mae’n rhyfeddol. Mae’n dipyn o gamp i staff, ond mae hyd yn oed yn well i’r cleifion. Hoffwn fynegi diolch enfawr y Bwrdd i bawb am yr hyn yr ydym wedi’i wneud yma.
“Mae yna wersi go-iawn yma i bawb eu dysgu, a hynny ar bob lefel yn y Bwrdd Iechyd a thu hwnt. Mae Ysbyty Tywysog Philip yn dangos nad oes angen i ni gael tagfa wrth ddrws y ffrynt; rydym ar flaen y gad o ran y ffordd newydd hon o weithio. Mae’n wych ar gyfer y cleifion a wasanaethwn ac ar gyfer pobl Llanelli.”
Dengys data newydd fod 40 y cant o’r cleifion sy’n cael eu derbyn i’r Uned Asesu Meddygol Acíwt oherwydd argyfwng meddygol, ‘nawr yn mynd adref o fewn 24 awr – o gymharu â 25 y cant o dan wasanaeth blaenorol yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys/Uned Penderfyniadau Clinigol.
Bellach, yr amser cyfartalog y mae cleifion yn cael eu cadw i mewn yn Ysbyty Tywysog Philip yw 6.8 diwrnod, o gymharu ag 8.8 diwrnod o dan yr hen system – er bod yr ysbyty yn derbyn, ar gyfartaledd, 200 yn fwy o gleifion y mis nag yr oedd o dan yr hen fodel.
Yn yr Uned Mân Anafiadau, mae 97 y cant o’r cleifion bellach yn cael eu rhyddhau o fewn pedair awr, o gymharu ag 89 y cant o dan wasanaeth yr Uned Penderfyniadau Clinigol – ac maent hefyd yn aros am tua 45 munud yn llai ar gyfartaledd, i gael eu gweld nag yr oeddent o dan yr hen fodel.
Ac mae’r manteision i’r ysbyty a’i gleifion eisoes i’w teimlo, gan y datgelwyd hefyd fod meddygon teulu yn baglu dros ei gilydd i gael gweithio yno.
Ychwanegodd Dr Meinir Jones, Meddyg Teulu Arweiniol ar gyfer y prosiect Blaen y Tŷ: “Un o’r heriau mwyaf pan ddechreuom yma oedd sut y byddem yn staffio’r unedau. Ond bellach mae gennym lawer o feddygon teulu sydd am ddod i weithio yn Ysbyty Tywysog Philip. Maen nhw’n griw da iawn yma; mae gennym ystod wych o wybodaeth. Mae’n ymwneud â meddwl yn wahanol a bod yn hyblyg”.
Ychwanegodd Dr Robbie Ghosal, Meddyg Anadlol Ymgynghorol a Chyfarwyddwr yr Ysbyty: “Ni fyddem wedi gallu peri i hyn ddigwydd heb y meddygon a’r staff ar lawr gwlad a oedd am iddo ddigwydd. Mae’n un o’r ysbytai mwyaf dymunol rydw i erioed wedi gweithio ynddo, ac nid yw erioed wedi colli ei ymdeimlad o hunaniaeth.
“Ysbyty Tywysog Philip yw’r ‘lle i weithio,’ gyda’i ysbryd tîm heb ei ail, a ffocws ar Arweinyddiaeth Glinigol effeithiol. Rydym yn ymfalchïo bod gennym Feddygon effeithiol sy’n cydweithio’n agos i ddarparu’r lefel hon o berfformiad targed, ac i ddatblygu’r gofal a ddarperir i’n cleifion.”