Sunday, May 28, 2023

Staff Hywel Dda yn cymryd rhan mewn diwrnod gweithredu byd-eang yn erbyn salwch marwol y gellir ei drin

Ar Ddiwrnod Sepsis y Byd, sef dydd Mercher 13 Medi 2017, ailymunodd staff ledled Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda â’r ymgyrch byd-eang i godi ymwybyddiaeth o salwch sy’n gallu bod yn angheuol.

Bydd tîm o staff o Ddatblygu Ymarfer, Dadebru a Rheoli Haint, ynghyd â Phencampwyr Sepsis, yn mynychu digwyddiad cenedlaethol yng Nghaerdydd i arddangos y gwaith mae’r bwrdd iechyd wedi’i wneud er mwyn mynd i’r afael â’r cyflwr – cyflwr a amcangyfrifir sy’n gyfrifol am 44,000 o farwolaethau bob blwyddyn yn y DU.

Mae sepsis yn ymateb marwol i haint yn unrhyw ran o’r corff. Y rhannau mwyaf cyffredin o haint sy’n arwain at Sepsis yw’r ysgyfaint, y llwybr wrinol, y bol (yr abdomen) a’r pelfis. Mae’n parhau i fod yr achos mwyaf o farwolaethau ataliadwy mewn ysbyty, er bod 70% o sepsis yn dechrau yn y gymuned.

Mae’n achosi mwy o farwolaethau bob blwyddyn na chanser y fron, canser y coluddyn a chanser y brostad gyda’i gilydd ac yn cyfateb i oddeutu 2,200 o bobl yng Nghymru bob blwyddyn, sy’n cynrychioli tua 13% o’r holl farwolaethau mewn ysbyty.

Mae sepsis hefyd yn ofnadw o ran yr ôl-effeithiau y gallai goroeswyr orfod byw gyda nhw am weddill eu bywydau. Yn aml, mae’n rhaid i oroeswyr sepsis ymdopi â heriau corfforol a ffysiolegol sy’n gallu golygu rhoi’r gorau i weithio a newidiadau sylweddol i ffordd o fyw.

Gall sepsis ddatblygu’n gyflym iawn, felly mae’n hanfodol adnabod sepsis a chael triniaeth cynnar. Mae’n effeithio ar bobl o bob oed – waeth beth fo’u ffordd o fyw. Grwpiau agored i niwed megis mamau sydd newydd roi genedigaeth, babanod newydd-anedig, plant bach a phobl hŷn sydd fwyaf tebygol o ddioddef ohono, a phobl sydd â chlefydau cronig a systemau imiwnedd gwan. Ar y dechrau mae’n aml yn anodd gwahaniaethu rhwng sepsis a’r ffliw, sy’n gwneud cael brechiad y ffliw yn flaenoriaeth mawr.

Dylai unrhyw rai sydd â gwres neu y mae tymheredd eu corff yn isel iawn, neu unrhyw rai sydd wedi dioddef symptomau o’r fath yn ddiweddar, ac sy’n dechrau dioddef unrhyw un o’r symptomau canlynol ofyn am gyngor meddygol ar unwaith:

  • Yn siarad yn aneglur neu’n ddryslyd
  • Yn crynu’n ddifrifol neu’n cwyno bod eu cyhyrau’n boenus
  • Yn methu â phasio wrin (yn ystod cyfnod o 18 awr neu ddiwrnod)
  • Yn dioddef o ddiffyg anadl difrifol
  • Yn teimlo anesmwythder difrifol
  • Y croen yn frycheulyd, yn las ei liw neu’n welw iawn.

Dywedodd Mr Jeremy Williams, Ymgynghorwr Achosion Brys ac Arweinydd Clinigol ar gyfer Gofal heb ei Drefnu: “Os na chaiff sepsis ei adnabod a’i drin yn brydlon, gall fod yn angheuol. Os na chaiff ei drin, bydd sepsis fel rheol yn peri i fwy nag un o’r organau fethu.

“Fodd bynnag, gall effeithiau gwaethaf sepsis gael eu gwrthsefyll â thriniaethau syml, cyhyd â bod y cyflwr yn cael ei adnabod yn fuan. Y cynharaf y gellir dechrau rhoi’r driniaeth, y lleiaf yw’r perygl y bydd rhywun yn marw; a gellir lleihau effeithiau niweidiol sepsis.”

Cafodd Diwrnod Sepsis y Byd ei nodi gan sefydliadau gofal iechyd ledled y byd er mwyn codi ymwybyddiaeth o sepsis ymhlith staff ac aelodau’r cyhoedd. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.world-sepsis-day.org

You May Have Missed

You are in breach of copyright
%d bloggers like this: