MAE Llyfrgelloedd Sir Gar wedi herio plant yn y sir i ddarllen tri llyfr yn ystod gwyliau’r Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.
Mae’r llyfrgelloedd yn rhan o’r Sialens Fach y Gaeaf sydd yn cael ei rhedeg drwy wefan “Summer Reading Challenge” (summerreadingchallenge.org.uk).
Mae plant yn cael eu herio i ddarllen tri llyfr o’u dewis nhw yn ystod gwyliau’r gaeaf. Bydd ychwanegu eu llyfrau i wefan y “Summer Reading Challenge” yn datgloi gwobrau rhith arbennig.
Bydd rhoi llyfrau ar y wefan “Summer Reading Challenge” rhwng Dydd Llun 11eg Rhagfyr 2017 a Dydd Gwener 12fed Ionawr yn datgloi bathodyn rhith Star Wars a thystysgrif Sialens Fach i bob un sy’n cymryd rhan.