Sunday, May 28, 2023
Sgiliau achub bywyd i gynghorwyr

Sgiliau achub bywyd i gynghorwyr

Mae un o gynghorwyr Cyngor Sir Caerfyrddin sydd hefyd yn barafeddyg wedi dechrau ymgyrch i sicrhau bod gan yr holl gynghorwyr sgiliau achub bywyd hanfodol.

Daeth y Cynghorydd Rob Evans, aelod dros ward Dafen, â’i gyd-gynghorwyr at ei gilydd o bob cwr o’r Siambr i ddysgu’r hyn ddylent ei wneud os byddant yn darganfod rhywun yn cael trawiad ar y galon.

Mae cynrychiolwyr o Wasanaeth Ambiwlans Cymru ac Ambiwlans Sant Ioan wedi ymuno â’r Cynghorydd Evans i godi ymwybyddiaeth a hyfforddi cynghorwyr i ddefnyddio diffibrilwyr cyhoeddus a thechnegau adfywiad.

Mae ef hefyd yn trefnu i ddiffibriliwr gael ei osod yn y dderbynfa yn Neuadd y Sir, Caerfyrddin, ac mae’n dymuno i ragor o gynghorwyr a staff y Cyngor wirfoddoli ar gyfer hyfforddiant cymorth cyntaf.

“Fel cynghorwyr, rydym yn teithio yn ôl ac ymlaen i’n cymunedau bob dydd,” meddai. “Os byddwn wedi cael hyfforddiant i ddefnyddio diffibrilwyr a chyflawni adfywiad cardio-pwlmonaidd (CPR) gallem achub bywydau. Gallwn hefyd drosglwyddo sgiliau achub bywyd hanfodol i’n hetholwyr a gweithio gyda’n gilydd i gynyddu nifer y diffibrilwyr cyhoeddus sydd ar gael.”

Mae diffibrilwyr yn ddyfeisiau cludadwy y gellir eu defnyddio pan fydd calon rhywun yn stopio, hynny yw pan fydd rhywun yn cael trawiad ar y galon, ac mae’n gwirio rhythm y galon yn awtomatig ac yn anfon sioc drydan i geisio adfer curiad normal y galon.

Gall unrhyw un ddefnyddio diffibriliwr cyhoeddus yn y sefyllfa hon fel rhan o driniaeth cymorth cyntaf, ond dywedodd y Cynghorydd Evans fod yr hyfforddiant a’r ymwybyddiaeth a oedd yn ei gynnig i’w gyd-gynghorwyr yn rhoi mwy o hyder iddynt helpu mewn argyfwng.

Bob blwyddyn yng Nghymru, mae tua 8,000 o drawiadau sydyn ar y galon y tu allan i’r ysbyty.

Mae ffigurau Calonnau Cymru, sef elusen y galon yng Nghymru – yn awgrymu mai dim ond 3% yw’r gyfradd goroesi ar ôl cael trawiad sydyn ar y galon y tu allan i’r ysbyty, gan godi i 47 y cant pan gaiff diffibriliwr ei ddefnyddio.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Hoffwn ganmol y Cynghorydd Evans am ei ymdrechion yn cynorthwyo Aelodau i gael yr hyfforddiant hwn a chodi ymwybyddiaeth am ddiffibrilwyr cymunedol.

“Mae’n bosibl mai’r wybodaeth hanfodol a’r mynediad hwn i offer fydd cyfle gorau rhywun i oroesi mewn argyfwng ac rwy’n falch fod y Cynghorydd Evans wedi cael y gefnogaeth hon gan ei gydweithwyr.”

 

Gallwch ddarganfod lle mae diffibrilwyr cyhoeddus yn eich cymuned drwy wefan Galw Iechyd Cymru:http://www.nhsdirect.wales.nhs.uk/LocalServices/default.aspx?s=DefibrillatorLocations&locale=cy

You May Have Missed

You are in breach of copyright
%d bloggers like this: