MAE swyddogion allgymorth lleol Senedd y DU wedi mynd â’u gweithdai grwpiau ieuenctid a chymunedol ar-lein heddiw.
Cynllunnir eu sesiynau i ddangos i grwpiau ledled Cymru sut mae Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi’n gweithio, yn ogystal â chynnig eu harbenigedd eu hunain ynghylch sut i ddylanwadu ar benderfyniadau a wneir yn Senedd y DU, cael eu lleisiau wedi’u clywed ac ymgyrchu am newid.
Llywyddir y gweithdai gan Steven Williams, y swyddog allgymorth ar gyfer Cymru, a gellir eu teilwra i fod yn addas ar gyfer anghenion unigol pob grŵp.
Mae amrywiaeth o weithdai ar-lein ar gael trwy gydol gweddill y flwyddyn, sy’n addas ar gyfer grwpiau â lefelau hygyrchedd a phrofiad gwahanol mewn ymgysylltu â Senedd y DU. Mae Steven Williams hefyd yn gallu arwain sesiynau yn y Gymraeg, os oes angen.
Wrth lansio’r gweithdai ar-lein, dywedodd Steven:
“Mae’n bwysig bod lleisiau Cymru yn parhau i gael eu clywed yn San Steffan. Dw’i eisiau dangos y ffyrdd y gall pobl gwneud hynny – o gysylltu ag ASau ac arglwyddi, i greu deisebau, rhoi tystiolaeth a mwy.
“Mae’r gweithdai ar-lein, yn rhad ac am ddim, yn ffordd wych i sefydliadau ledled Cymru dysgu mwy am ein democratiaeth. Trwy gynnig cyngor ymarferol ac adnoddau defnyddio, gall grwpiau creu newid cadarnhaol yn eu cymunedau nhw, ym mhob cwr o Gymru.”
Pobl, pŵêr a Senedd y DU:
Cyflwyniad
Mae’r gweithdy ar-lein 30 munud hwn yn llawn cwisiau a gweithgareddau. Wedi’i gynllunio ar gyfer isafswm o 15 o bobl, bydd grwpiau’n cael trosolwg llawn ynghylch sut mae Senedd y DU yn gweithio iddynt, gan gynnwys – sut y gallant gael eu lleisiau wedi’u clywed gan ASau; yr hyn y mae Tŷ’r Arglwyddi’n ei wneud a hefyd sut mae ASau a’r Arglwyddi’n codi materion ar eu rhan.
Ydych chi’n ddylanwadol? Mynnwch gael eich llais wedi’i glywed yn Senedd y DU
Cynllunnir y gweithdy hwn am awr ar gyfer isafswm o 10 o bobl ac mae wedi’i greu’n arbennig ar gyfer y rhai hynny sydd wedi ymgysylltu ar raddfa fechan â’r Senedd o’r blaen. Bydd mynychwyr yn datblygu dealltwriaeth ddyfnach ynghylch sut i godi’r materion sy’n golygu fwyaf iddynt, gan gynnwys:
Sut y gallant weithredu; pa foddau sy’n helpu i ddylanwadu ar ddadleuon, penderfyniadau a deddfwriaeth a hefyd sut y gallant adeiladu perthynas ag ASau a’r Arglwyddi
Grymuso – ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu:
Mae’r sesiwn hygyrch iawn hon yn parhau am 45 munud fel arfer ac mae’n llawn gweithgareddau a chwisiau i hyrwyddo ymgysylltu ac annog oedolion ag anableddau dysgu i ddatblygu sgiliau dinasyddiaeth gydol oes.
Cynllunnir y sesiwn ar gyfer isafswm o 10 o bobl, gan gynnwys gofalwyr a gall arweinwyr grŵp hefyd ddysgu i gyflwyno ein hyfforddiant arbenigol i’w sefydliadau a chymunedau.
I sicrhau argaeledd ac archebu sesiwn, ewch i yma. Bydd y digwyddiadau ar-lein hyn yn lle’r sesiynau wyneb yn wyneb a gynhaliwyd gan y swyddogion allgymorth yn eu hardaloedd lleol yn ystod pandemig y coronafeirws.
More Stories
Sir Gâredig – Rhannu Caredigrwydd Sir Gâr
Ymgynghoriadau ynghylch ysgolion ar y gweill
Helpwch Ni i’ch Helpu Chi pan gewch eich Derbyn mewn Argyfwng / Help Us to Help You when Admitted as an Emergency