YR wythnos hon, cynhelir yr ymgyrch ‘Y Rhai Mewn Glas’ gyntaf, sef dathliad o Swyddogion Cefnogi Cymunedol yr Heddlu (SCCH) a’r gwerth maen nhw’n ychwanegu i blismona ledled Cymru.
Nid yn unig y mae SCCH yn llygaid ac yn glustiau yn y gymuned, maen nhw hefyd yn helpu i fynd i’r afael â phroblemau sy’n achosi’r pryder mwyaf yn Nyfed-Powys, a’r Nadolig hwn, bydd eu presenoldeb yn tawelu meddyliau rhai o’r bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau ledled Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Phowys.
Dywedodd SCCH Laura Galdo o Aberdaugleddau: “Mae tawelu meddyliau’r henoed yn fy nghymuned yn bwysig iawn i mi. Rydw i eisiau sicrhau nad ydynt yn teimlo’n unig, yn arbennig dros y Nadolig. Rwy’n aml yn ymweld â chartrefi gofal yn Aberdaugleddau i wneud yn siŵr eu bod nhw’n teimlo’n ddiogel.
“Dros gyfnod prysur y Nadolig, byddaf hefyd yn treulio amser yn atgoffa perchnogion siop am eu cyfrifoldebau wrth werthu alcohol, gan sicrhau eu bod nhw’n herio unrhyw un maen nhw’n amau sy’n iau na 18 oed. Mae llawer o’r ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n poeni pobl yn gysylltiedig ag alcohol.”
Dywedodd SCCH Beth Mayhew o Ddinbych-y-pysgod: “Mae gweithio dros y Nadolig yn rhoi cyfle imi helpu pobl fregus sy’n byw yn fy ardal. Gall fod yn gyfnod arbennig o anodd i rai. Byddaf yn gweithio i gefnogi’r gymuned fechan o bobl ddigartref yn Ninbych-y-pysgod, gan ymgysylltu â phartneriaid i sicrhau bod ganddynt fwyd, lloches a dillad.
“Rwyf mewn cysylltiad rheolaidd â Menter Adnoddau Hafal Dinbych-y-pysgod – elusen sy’n cefnogi pobl sy’n byw â chyflwr iechyd meddwl yn y gymuned – ac eleni, bydd Tîm Plismona Bro Dinbych-y-pysgod yn helpu adeg eu cinio Nadolig.
“Mae Dinbych-y-pysgod yn prysuro yn ystod cyfnod y Nadolig, gyda nifer fawr o loddestwyr a digwyddiadau yn y dref, felly byddaf wrth law i ddarparu presenoldeb amlwg ar droed, gan helpu i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol a thrais.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Robyn Mason, arweinydd SCCH yn Heddlu Dyfed-Powys: “Yn ddiweddar, cynhaliom ymgynghoriad cyhoeddus ar rôl SCCH yn Nyfed-Powys, ac mae’r adborth yn creu darlun cadarnhaol o effaith SCCH yn y gymuned. Mae’n dda gennym ddweud bod y rhan fwyaf o bobl wedi dweud wrthym eu bod nhw’n adnabod eu SCCH lleol yn ôl ei olwg o leiaf, ac mae sawl un yn eu hadnabod yn ôl enw.
“Mae SCCH yn rhan annatod o deulu Heddlu Dyfed-Powys. Nid yn unig y maent yn llygaid ac yn glustiau yn y gymuned, maen nhw hefyd yn helpu i fynd i’r afael â phroblemau sy’n achosi’r pryder mwyaf i’n trefi a’n pentrefi, a’r Nadolig hwn, bydd eu presenoldeb yn tawelu meddyliau rhai o’r bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau.”
Trwy’r wythnos, mae SCCH ledled Dyfed-Powys, a Chymru gyfan, wedi bod yn defnyddio’r hashnod #TweetMyWeek ar Twitter, er mwyn dangos y gwaith maen nhw’n ei wneud yn y gymuned. Galwch heibio i http://bit.ly/2Coj4R1 er mwyn gweld beth maen nhw wedi bod yn dweud, neu dilynwch eich swyddogion lleol ar Twitter am ddiweddariadau a gwybodaeth leol: http://bit.ly/2Bmz9p7.
Neges Heddlu Dyfed-Powys yn ystod #YmgyrchSANTA y Nadolig hwn yw “gwell amser nag anrheg”. Os oes gennych unrhyw bryderon am droseddu neu ymddygiad gwrthgymdeithasol yn eich cymuned, siaradwch â SCCH neu swyddog heddlu, neu galwch 101.