BYDD cynllun rhad ac am ddim sy’n defnyddio gemau a chaneuon i gyflwyno’r Gymraeg i rieni plant ifanc yn ail-gychwyn mis Hydref ac yn parhau yn 2019, yn dilyn llwyddiant y cyrsiau cychwynnol a gynhaliwyd yn gynharach eleni.
Mae Clwb Cwtsh yn cynnig cyrsiau newydd am ddim mewn 76 lleoliad ar draws Cymru yn ystod mis Hydref eleni a chyfres arall o gyrsiau yn dechrau ym mis Ionawr 2019.
Bydd 23 o swyddogion o Fôn i Fynwy’n cynnal y sesiynau rhad ac am ddim i unrhyw un sydd â diddordeb dechrau dysgu’r Gymraeg mewn awyrgylch anffurfiol.
Cafodd y cynllun gwreiddiol, sy’n brosiect ar y cyd rhwng Mudiad Meithrin a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, ei lansio ym mis Chwefror eleni. Cynhaliwyd 78 o gyrsiau fel rhan o’r cynllun, gyda dros 500 o bobl yn mynychu.
Mae’r cyrsiau Clwb Cwtsh wyth wythnos o hyd ar gyfer rhieni, gwarchodwyr a darpar rieni ac mae croeso iddynt ddod â’u plant gyda nhw, gan fod Mudiad Meithrin yn darparu adloniant ar eu cyfer. Ar ddiwedd y cyfnod, mae’r dysgwyr yn cael eu hannog i ddilyn cyrsiau pellach.
Lluniwyd y cyrsiau gan Nia Parry, sy’n adnabyddus am gyflwyno rhaglenni teledu ar S4C, yn arbennig rhai sydd wedi eu hanelu at ddysgwyr.
Meddai Dr Gwenllïan Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin:
“Ers dechrau gweithredu’r cynllun Clwb Cwtsh rydym wedi derbyn ymateb da ledled Cymru. Mae’r ffaith ein bod yn gallu cynnig i blant ddod gyda’u teuluoedd wedi cael ei groesawu. Rydym yn edrych ymlaen at ehangu’r ddarpariaeth ac yn gyffrous iawn i barhau i weithredu’r cynllun hwn ar lawr gwlad.”
Meddai Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:
“Trwy gydweithio gyda Mudiad Meithrin gallwn gynnig cyfleoedd newydd i deuluoedd ddechrau dysgu’r iaith. Mae’r cynllun yn cynnig dull hwyliog o ddysgu geirfa y gall rhieni a gofalwyr ddefnyddio yn y cartref gyda’u plant bach. Gobeithiwn y bydd teuluoedd ar draws Cymru yn manteisio ar y cyfle newydd yma i ddechrau ar eu siwrne i ddysgu’r Gymraeg gyda ni.”
I lansio’r gyfres nesaf o gyrsiau Clwb Cwtsh, mae Mudiad Meithrin yn cynnal digwyddiad yn Y Pierhead, Cynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng 12:00 a 13.30 Ddydd Mawrth, 2 Hydref. Noddir y digwyddiad gan David Rees AC lle bydd Mudiad Meithrin yn cynnal sesiwn flasu Clwb Cwtsh ac yn sôn am y gwaith sy’n hybu a chefnogi rhieni, neiniau a theidiau, a gofalwyr i roi cynnig ar ddysgu Cymraeg ochr yn ochr â’u plant oed meithrin.