Bydd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn cadarnhau heddiw (Gorffennaf 3) bod yr amodau yn galluogi Llywodraeth Cymru i ddileu’r rheol ar aros yn lleol ac i wneud newidiadau i’r rheoliadau fel y gall teuluoedd ddod ynghyd unwaith eto. O ddydd Llun, bydd pobl o ddwy aelwyd wahanol yn cael dod at ei gilydd i ffurfio un aelwyd estynedig.
Yn ei gynhadledd i’r wasg yn ddiweddarach heddiw, mae disgwyl i’r Prif Weinidog ddweud, er bod rhai cyfyngiadau’n cael eu llacio yng Nghymru, bod angen i bawb barhau i gadw pellter cymdeithasol a pharchu’r lleoedd a’r cymunedau y maent yn ymweld â nhw.
More Stories
Sir Gâredig – Rhannu Caredigrwydd Sir Gâr
Ymgynghoriadau ynghylch ysgolion ar y gweill
Helpwch Ni i’ch Helpu Chi pan gewch eich Derbyn mewn Argyfwng / Help Us to Help You when Admitted as an Emergency