Rhaid i westai, lletyau gwely a brecwast, chartrefi gwyliau aros ar gau
Summary
LLYWODRAETH CYMRU wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer gweithredwyr llety gwyliau yng Nghymru sy’n ymwneud â Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) Cymru 2020. Mae’r canllawiau yn glir y dylai pob busnes llety gwyliau fod eisoes ar gau a rhaid iddynt aros […]
More On Busnes
- Cyswllt Ffermio yn benderfynol o estyn allan at ferched sy'n ffermio
- Gweminarau ar-lein Cyswllt Ffermio yn helpu'r diwydiant i 'gadw mewn cysylltiad'
- Cymru'n Gweithio'n ''chwarae rôl hanfodol'' medd y Gweinidog Ken Skates
- Cyngor Sir Gar yn annog busnesau gymryd rhan mewn arolwg effaith COVID-19
- Mae tri busnes bach yng Nghymru yn ymuno â'r frwydr yn erbyn COVID-19

LLYWODRAETH CYMRU wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer gweithredwyr llety gwyliau yng Nghymru sy’n ymwneud â Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) Cymru 2020.
Mae’r canllawiau yn glir y dylai pob busnes llety gwyliau fod eisoes ar gau a rhaid iddynt aros ar gau nes clywir yn wahanol. Mae’n drosedd i berchnogion llety beidio â chydymffurfio â’r rheoliadau hyn. Mae hefyd yn drosedd i unrhyw un i atal perchnogion rhag cyflawni eu dyletswyddau.
Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Mae’n gyfnod hynod o anodd i’r diwydiant twristiaeth, fodd bynnag, dylai busnesau llety eisoes fod ar gau a dylent aros ar gau nes clywir yn wahanol. Hoffwn ddiolch i’r diwydiant am eu cydweithrediad yn ystod y cyfnod anarferol hwn, a chan fod yn rhaid i’r diwydiant twristiaeth gau ei ddrysau am y tro, rhaid i bawb barchu’r mesur eithafol hwn. Peidiwch â theithio, arhoswch yn ddiogel yn eich prif gartref. Ni chaniateir teithio at ddibenion hamdden. Mae pob llety ac atyniad gwyliau yng Nghymru ar gau i ymwelwyr.
“Mae’r neges yn glir – arhoswch gartref i arbed bywydau”.
Gall Gweinidogion Cymru neu Awdurdodau Lleol wneud cais am lety i agor at ddiben penodol. Oni bai y gofynnir yn benodol i fusnesau agor eu drysau, maen rhaid iddynt aros ar gau. Gellir gofyn iddynt agor i letya gweithwyr allweddol, pobl sydd wedi’u dadleoli neu sy’n ddigartref neu i ddarparu llety ar gyfer cleifion.
I’r perwyl hwnnw, ac i gefnogi’r ymdrech genedlaethol i gadw pawb yn ddiogel yn ystod yr argyfwng hwn, mae’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas, wedi ysgrifennu at ddarparwyr llety i ofyn a all unrhyw un gynnig llety ar gyfer grwpiau bregus.
Mae Busnes Cymru yn darparu cymorth wedi’i deilwra a chyngor i fusnesau ynghylch sut i ymdopi â’r coronafeirws, o gynllunio’n ariannol a’r gadwyn gyflenwi i gyngor ar materion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sydd eisiau canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth Busnes Cymru ar 03000 6 03000.