MAE cleifion yn ardal Llanelli wedi bod yn cymryd rhan mewn cynllun arloesol sy’n galluogi i weithwyr proffesiynol ym maes gofal sylfaenol ‘bresgripsiynu’ triniaethau anghlinigol.
Ystyr presgripsiynu cymdeithasol yw pan fydd gweithwyr proffesiynol ym maes gofal sylfaenol yn atgyfeirio cleifion sydd ag anghenion cymdeithasol, emosiynol neu ymarferol at amrywiaeth o wasanaethau lleol ac anghlinigol, er enghraifft therapi grwp, ymarfer corff, arferion llesiant a gweithgareddau cymunedol.
Mae’r Presgripsiynwyr Cymdeithasol, Tracy Roberts Jones ac Andrew Pompa, yn gweithio ar draws chwe meddygfa, gan gynnig cymorth i gleifion trwy sesiynau un i un a sesiynau grwp.
Bu Tracy ac Andrew yn siarad am y gwasanaeth y maent yn ei gynnig mewn fideo newydd a ddatblygwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Mae Tracy, sy’n nyrs cymwysedig ac yn hyfforddwr bywyd, yn disgrifio ei gwaith fel “helpu pobl i ailgydio yn eu bywyd”.
Eglura Tracy: “Mae Presgripsiynu Cymdeithasol wedi ychwanegu dimensiwn newydd y mae mawr angen amdano i’r ffordd y gall pobl gael mynediad at lwybrau newydd i wella eu hiechyd a lles.
“Mae’r gwasanaeth yn canolbwyntio ar sgiliau a galluoedd yr unigolyn, gyda’r nod o feithrin hunanhyder, gan ei rymuso i ddatblygu i fod yn adnodd ar gyfer y gymuned leol, o bosibl.”
Ychwanegodd Andrew, sydd â chefndir ym maes datblygu cymunedol ac ymddygiad: “Mae cleifion sydd wedi cael eu gweld gan y gwasanaeth presgripsiynu cymdeithasol wedi mynd ymlaen i gyrchu amrywiaeth eang o wasanaethau cymorth, er enghraifft cwnsela, hyfforddiant, cymorth ar gyfer iechyd meddwl a lles emosiynol, a gwybodaeth am dai a chyflogaeth.
Mae cleifion hefyd wedi gallu cymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau corfforol a chymdeithasol, er enghraifft therapi cerddoriaeth, ioga, dawns, cyfleoedd i wirfoddoli, nofio, cerdded, ffotograffiaeth, celf a chrefft, a sesiynau bwyta’n iach.”
Cafodd Victoria, sy’n dioddef o bryder ac iselder, ei hatgyfeirio at y gwasanaeth gan ei nyrs practis: “Ar ôl ychydig o sesiynau gydag Andrew, awgrymodd y dylwn hefyd fynd i’r sesiynau grwp unwaith yr wythnos, ac roedd hynny’n ddefnyddiol iawn.
“Mae bod yng nghwmni pobl eraill sy’n deall yr hyn yr wyf yn ei deimlo ac yn ei ddioddef, wedi bod o help mawr.
“Mae’r hyfforddiant a’r technegau hunangymorth yr wyf wedi’u dysgu wedi fy helpu i gefnogi pobl eraill.
“Mae Andrew a Tracy yn sicrhau bod y sesiynau yn hygyrch ac yn rhaff achub i’r nifer o bobl y maent wedi rhoi gobaith iddynt.”
I gael rhagor o wybodaeth am bresgripsiynu cymdeithasol, ewch i https://youtu.be/8bYZv-ASXKU neu i dudalen Facebook y Bwrdd Iechyd.