MAE prifysgolion Cymru’n wynebu bygythiad difrifol i’w safle ariannol a gall fod angen mwy o gymorth arnyn nhw gan y llywodraeth, yn ôl dadansoddiad gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd.

For More Great News Stories Click The Banner
Mae’r adroddiad gan Cian Siôn (https://cardiff.us3.list-manage.com/track/click?u=0d4d960f143e97b34536912ce&id=95c5447c51&e=ec27c8d0d2) , ymchwilydd ar raglen Dadansoddi Cyllid Cymru, yn datgelu cyfres o ganfyddiadau sydd yn cyfeirio at golled ddramatig mewn incwm ffioedd dysgu ar gyfer y sector yng Nghymru o ganlyniad i Covid-19.
Wrth ystyried y cwymp disgwyliedig yn y niferoedd o fyfyrwyr rhyngwladol a gaiff eu recriwtio a’r myfyrwyr cartref fydd yn cofrestru; mae’r adroddiad yn amcangyfrif gallai’r sector golli unrhyw beth rhwng £100m a £140m yn 2020-21 o incwm ffioedd yn unig.
Mae’r adroddiad yn dadansoddi iechyd ariannol y sector Addysg Uwch yn gyffredinol, ac yn canfod bod ffioedd dysgu’n gyfrifol am £892 miliwn (54.7%) o incwm prifysgolion Cymru, o gymharu â 50.2% ar draws y Deyrnas Gyfunol.
Dywedodd Cian Siôn: “Mae’r pwysau ar recriwtio myfyrwyr o ganlyniad i’r pandemig Covid-19 yn cynrychioli bygythiad ariannol difrifol i’r sector addysg uwch yng Nghymru. Mae sawl arolwg yn awgrymu cwymp serth yn y nifer o fyfyrwyr rhyngwladol a chartref fydd yn cofrestru ym mis Medi.
“Roedd sefydliadau Cymreig eisoes mewn sefyllfa ariannol wannach gymharol cyn yr argyfwng, felly mae hyn yn ergyd a gaiff ei deimlo’n waeth yma.”
Datgelir hefyd yn yr adroddiad bwysigrwydd cymharol y sector i economi Cymru o gymharu â Lloegr neu’r DG, gyda phrifysgolion yn cynnig 17,300 o swyddi llawn amser Cymreig, yn cyfrannu 4.8% o Werth Ychwanegol Gros (GVA) sydd gyfystyr â 32.5% o wariant y wlad ar Ymchwil a Datblygu (R&D). Darganfu ymchwil blaenorol gan raglen Dadansoddi Cyllid Cymru bod cynyddu’r gwariant mewn R&D yng Nghymru yn hanfodol ar gyfer gwella perfformiad economaidd y wlad.
Gall mesurau ymateb economaidd cyffredinol Llywodraeth y DG helpu sefydliadau sydd yn wynebu diffyg ariannu sydyn. Ond golyga dibyniaeth y sector ar incwm ffioedd o raglenni aml-flynyddol y bydd effeithiau cael llai o fyfyrwyr ym mis Medi yn debygol o gael ei deimlo am flynyddoedd lawer. Yn absenoldeb cymorth pellach gan y llywodraeth, gallai heriau gweithredol arwain yn y pen draw at golli swyddi a’r sector yn crebachu yng Nghymru.
Yn ôl y dadansoddiad, y tri sefydliad sydd â’r mwyaf i’w golli o bosib pe bai cwymp yn y nifer o fyfyrwyr rhyngwladol yw Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd a Phrifysgol Bangor. A’r tri sefydliad sydd â’r mwyaf i’w golli o bosib pe bai cwymp yn y nifer o fyfyrwyr “cartref” yw Prifysgol Glyndŵr, Prifysgol y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd.
Ychwanegodd Cian Siôn: “Bydd llywodraethau yng Nghaerdydd a San Steffan yn ystyried yn ofalus pa sectorau sydd angen y cymorth ychwanegol mwyaf brys er mwyn gwrthsefyll effeithiau’r pandemig.
“Gobeithiwn fod y canfyddiadau hyn yn egluro pwysigrwydd y sector Addysg Uwch i economi Cymru a heb ryw fath o becyn cymorth wedi ei deilwra, fe all fod yna fygythiad ariannol difrifol i’r rhan fwyaf o brifysgolion yng Nghymru.”

,
Similar Posts
Latest Posts from Llanelli Online