DAETH dros 100 o bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed o ysgolion, colegau a phrosiectau ieuenctid ar draws Sir Gaerfyrddin i’r Gynhadledd Ieuenctid eleni.
‘Diwrnod gwael, dim bywyd gwael’ oedd teitl y gynhadledd, a’i thema oedd Iechyd Meddwl Pobl Ifanc.
Cafodd y gynhadledd ei threfnu ar y cyd gan Gyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin a Thîm Cyfranogiad a Hawliau Plant Cyngor Sir Caerfyrddin a’i chynnal ym Mharc y Scarlets.
Yn ystod y digwyddiad, gwrandawodd pobl ifanc ar areithiau gan gymryd rhan mewn gweithdai a thrafodaethau ynghylch Iechyd Meddwl â phobl ifanc eraill, pobl sy’n gwneud penderfyniadau a phobl broffesiynol o’r sector iechyd ac addysg.
Roedd yr ymgyrch newydd ar gyfer iechyd meddwl, a sefydlwyd gan bobl ifanc Sir Gaerfyrddin, yn cael ei lansio yn y Gynhadledd Ieuenctid flynyddol eleni.
Lansiodd Harriet Alsop-Bingham, sydd yn ei harddegau ac yn byw yn y Garnant, ‘Stori Harriet’ ar ran y Cyngor Ieuenctid.
Mae ‘Stori Harriet’ yn annog pobl i wneud addewid i ddechrau sgwrs ag eraill.
Mae Harriet, sy’n 16 oed, wedi dangos cryfder a dewrder i oresgyn anawsterau personol.
Lansiwyd yr ymgyrch gan y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg, a lofnododd gopi cyntaf Addewid Stori Harriet yn y gynhadledd. Dywedodd: “Rwy’n sicr bod stori ysbrydoledig Harriet wedi rhoi anogaeth a chefnogaeth i eraill. Hoffwn longyfarch Harriet a’r Cyngor Ieuenctid am hoelio sylw ar y pwnc pwysig ac anodd hwn a llongyfarch pawb oedd ynghlwm wrth drefnu’r gynhadledd,” dywedodd.
“Rwyf yn gobeithio y bydd pobl yn cefnogi ac yn llofnodi addewid Harriet.”
Os hoffech lofnodi’r addewid ewch i http://www.youthsirgar.org.uk/cartref/storiharriet/ neu i gymryd rhan yn y sgwrs ar Facebook a Twitter, cofiwch ddefnyddio #storiharriet