MAE aelodau Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys wedi cefnogi cynnydd arfaethedig y Comisiynydd o 5 y cant yn y praesept.
Amlinellodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, ei gynlluniau cyllideb i’r aelodau yng nghyfarfod y panel ym mis Ionawr.
Byddai’r praesept yn cyfrannu £49.8 miliwn at gyllideb Heddlu Dyfed-Powys, a fyddai – yn sgil ei gyfuno â chyllid canolog a lleol – yn rhoi cyfanswm cyllideb o £99.1 miliwn ar gyfer 2018/19 (cynnydd o 2.57 y cant mewn cyllid).
Os caiff hyn ei gytuno, byddai eiddo cyfartalog ym mand D yn talu £224.56 tuag at wasanaethau plismona – tua £10 yn fwy nag y llynedd – ond yr isaf ledled Cymru o hyd.
Cafodd yr aelodau gyfle i glywed yn uniongyrchol am y buddsoddiadau y mae’r comisiynydd yn bwriadu eu gwneud.
Mae’r buddsoddiadau hyn yn cynnwys £16,000 i dalu am gostau cynnal y teledu cylch cyfyng, a £222,000 ychwanegol ar gyfer yr Uned Seiberdroseddu Ddigidol, y Tîm Troseddu Ariannol a’r Adran Ymchwiliadau Troseddol.
Mae cyllid wedi’i neilltuo ar gyfer cyflwyno cynllun prentisiaethau a chefnogi gwaith cynnal a chadw ar draws ystad yr Heddlu.
Mae’r cyllidebau hefyd wedi cynyddu er mwyn cefnogi’r gwaith sy’n ymwneud â throseddau ieuenctid a diogelwch cymunedol.
Bydd y prosiect peilot ‘brysbennu yn y ddalfa’ yn cael ei gynnal yn Hwlffordd, chaiff ei gyfeirio at droseddwyr mwyaf agored i niwed, rhywbeth y gellid ei gyflwyno ledled yr heddlu yn y dyfodol.
Dywedodd y Cynghorydd Keith Evans, aelod o ardal cyngor Ceredigion: “Rydym ni’n gweld gwelliant o ran perfformiad. Rydym ni’n gwneud cynnydd sylweddol o ran yr hyn ni’n dymuno ac yn disgwyl fel trethdalwyr. Er hynny, rwy’n ymwybodol y bydd cynnydd yn y praesept yn cael effaith ar bobl.”
Diolchodd Cadeirydd y Panel, y Cynghorydd Alun Lloyd Jones, i’r comisiynydd am ei adroddiad cynhwysfawr cyn cael pleidlais unfrydol o blaid y praesept arfaethedig.
Mae Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys yn cynnwys aelodau a enwebwyd gan y pedwar cyngor yn ardal yr heddlu: Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys; ac o leiaf ddau aelod annibynnol. Cyngor Sir Caerfyrddin yw awdurdod arweiniol y Panel.
Mae’r cyfarfodydd yn agored i’r wasg a’r cyhoedd, ac os cânt ganiatâd ymlaen llaw gan y cadeirydd, gall pobl ofyn cwestiynau neu wneud datganiad ynghylch mater sy’n cael ei ystyried gan y panel, ac eithrio materion personél.
Hefyd, gellir cyflwyno cwestiynau i’r panel yn ysgrifenedig neu drwy’r ffurflen gyswllt ar y wefan.
Mae gwybodaeth am y panel, agendâu, dyddiadau cyfarfodydd, aelodaeth a newyddion ar gael ar-lein: http://www.dppoliceandcrimepanel.org.uk/