Saturday, April 1, 2023
Nyrs o Orllewin Cymru ar ei ffordd i Balas Buckingham

Nyrs o Orllewin Cymru ar ei ffordd i Balas Buckingham

MAE nyrs o orllewin Cymru – sydd wedi helpu i ofalu am y plant mwyaf tost yn ein hardal – yn edrych ymlaen at ymweld â Phalas Buckingham ym mis Mehefin ac wrth ei bodd ei bod hi wedi cael ei chynnwys ar Restr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd eleni.

Mae Rowena Jones wedi cael ei gwobrwyo â MBE am ei gwasanaeth i blant tost ac anabl, ac yn enwedig am ei chyfraniad wrth sefydlu gwasanaeth i alluogi plant i gael gofal yn eu cartrefi ar ddiwedd eu hoes.

Mae Rowena’n nyrs allgymorth oncoleg bediatrig arbenigol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, gan ofalu am gannoedd o blant o bob cwr o Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, ynghyd â chefnogi eu teuluoedd.

Mae hi wedi bod yn nyrs am dros 40 mlynedd, gan weithio yn y gymuned ac ar wardiau yn Ysbytai Bronglais a Glangwili, ynghyd â gweithio’n agos gyda’r Uned Ganser i Blant yng Nghaerdydd.

Yn fwyaf diweddar, sefydlodd Gronfa Nyrsys Lliniarol ar gyfer gwasanaethau plant gyda chydweithiwr agos iddi, sef Jayne Thomas sy’n nyrs gofal lliniarol pediatrig. Mae hyn wedi galluogi mwy o nyrsys i gael hyfforddiant i ofalu am blant ar ddiwedd eu hoes. Mae hyn yn golygu bod nyrsys yn gallu gofalu am blant dros ddiwrnod 24 awr, ac felly maen nhw’n gallu dychwelyd adref i’w hamgylchedd eu hunain a bod yng nghwmni eu teuluoedd.

Dywedodd Rowena, sydd o Aberaeron: “Cefais syndod mawr pan gysylltodd rhywun o’r Palas â mi, ac mae ymateb ffrindiau, teulu, cydweithwyr a theuluoedd y plant rydw i’n gweithio gyda nhw yn drech na mi.

“Rwyf wrth fy modd yn nyrsio a gweithio gyda theuluoedd, ond rydyn ni i gyd yn gweithredu fel tîm. Os yw cael yr anrhydedd hwn yn helpu’r gwasanaeth, yna rwyf ar ben fy nigon.”

Cafodd y bwrdd iechyd ymateb ysgubol gan y cyhoedd pan gyhoeddodd gydnabyddiaeth Rowena. Cyrhaeddodd y cyhoeddiad 33,773 o bobl, gyda bron 2,500 o bobl yn ymgysylltu ag ef, gan gynnwys llawer o sylwadau gan deuluoedd gwerthfawrogol yn yr ardal.

Dywedodd Rowena, sydd hefyd â chysylltiadau agos â’r elusennau canser i blant, LATCH a Clic Sargent, ei bod yn edrych ymlaen yn awr at fynd ar daith i’r Palas a chwrdd â’r Frenhines yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Dywedodd Mandy Rayani, Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf: “Mae Rowena yn aelod rhagorol o’n staff nyrsio sydd â chyfoeth o sgiliau, gwybodaeth a phrofiad yn ei maes arbenigol. Mae ganddi hefyd y gallu i gysylltu â phlant a’u teuluoedd gan ddarparu profiad claf arbennig yn ogystal â gofal nyrsio rhagorol.”

You May Have Missed

You are in breach of copyright
%d bloggers like this: