Sunday, June 4, 2023
Nodyn i’r dyddiadur ar gyfer ymgynghoriad ffurfiol

Nodyn i’r dyddiadur ar gyfer ymgynghoriad ffurfiol

MAE Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cyhoeddi ei gynlluniau i lansio ymgynghoriad ffurfiol, â’r nod o wella darpariaeth iechyd a gofal lleol ar gyfer ein cymunedau, ar ddydd Iau Ebrill 19, yn ddibynnol ar gymeradwyaeth ffurfiol y Bwrdd ar y diwrnod hwnnw.

Bydd y bwrdd iechyd yn cyflwyno opsiynau ar gyfer darpariaeth gwasanaethau iechyd a gofal i’r boblogaeth, y mae o’r farm sy’n ddiogel, yn ddichonadwy ac yn cynnig gwelliant i’r hyn sy’n cael ei ddarparu ar hyn o bryd. Bydd yr ymarfer 12 wythnos yn cynnwys nifer o ddigwyddiadau ar gyfer cymunedau – yn gyffredinol ac wedi’u targedi – yn ogystal ag ymgyrch codi ymwybyddiaeth, a gelwir hyn yn ‘Hywel Dda – Trawsnewid ein Gwasanaeth Iechyd’.

Meddai’r Cyfarwyddwr Meddygol Phil Kloer: “Dymunwn ddiolch i’n staff, cymunedau a phartneriaid am gymryd rhan yn ein rhaglen trawsnewid (Trawsnewid Gwasanaethau Clinigol) hyd yn hyn. Roedd cannoedd o bobl yn rhan o’n ymarfer gwrando ac ymgysylltu yr haf diwethaf, ac ers hynny rydym wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau galw-heibio i staff, a chynnwys partneriaid a staff yn y dasg o sgorio chwe opsiwn posibl.

“Rydym am ddiolch i bawb sydd wedi cynnig eu dealltwriaeth a’u harbenigedd hyd yn hyn. Rydym yn defnyddio’r hyn a glywsom i leihau nifer yr opsiynau y byddwn yn eu cyflwyno yn yr ymgynghoriad a darparu mwy o fanylion arnynt. Rhaid i mi bwysleisio nad oes unrhyw benderfyniadau wedi’u gwneud gan y Bwrdd, ac rydym am glywed barn pobl ar ein opsiynau, ac ystyried unrhyw syniadau newydd.”

Bydd y bwrdd iechyd nawr yn ystyried effaith, canlyniadau ac adnoddau’r opsiynau ac yn paratoi ei hun i allu clywed barn pawb cyn iddo gyhoeddi manylion yr opsiynau yn ei ymgynghoriad.

Bydd y rhaglen, a arweinir yn glinigol, yn ceisio caniatâd y Bwrdd Iechyd llawn i fwrw ymlaen i ymgynghori ar 19 Ebrill. Yn dilyn hyn cynhelir y rhaglen ymgynghori 12 wythnos lle y gwrandewir ar pob barn a’u dadansoddi’n annibynnol. Yna cyflwynir adroddiad dadansoddi i’r bwrdd llawn, ym mis Medi gobeithio, fel y gall wneud penderfyniad ar sut i symud ymlaen.

Meddai Dr Kloer: “Rydym yn eich annog i gadw golwg am yr ymgynghoriad mewn rhai wythnosau ac i gymryd rhan ynddo. Ewch i’n gwefan – neu’r fewnrwyd os ydych yn aelod o staff – i gael gwybod am y datblygiadau diweddaraf, a dilynwch ni ar Facebook a Twitter.”

You May Have Missed

You are in breach of copyright
%d bloggers like this: