MAE rhwystrau cyfyngu ar uchder yn cael eu hailgyflwyno yng Nghanolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref Trostre mewn ymgais i atal y cyfleuster rhag cael ei gamddefnyddio gan gerbydau masnach.
Yn ystod mis Ebrill, roedd 26,000 o gerbydau wedi ymweld â’r safle, ond credir bod tua thraean o’r rheiny yn fusnesau nad oes ganddynt hawl i ddefnyddio’r cyfleusterau.
Mae camddefnydd cynyddol o’r safle yn achosi tagfeydd a phroblemau o ran diogelwch yn y safle, gan arwain at gwynion gan y cyhoedd.
O ganlyniad, o ddydd Mawrth 29 Mai, ni fydd cerbydau dros ddau fetr o uchder yn cael dod i mewn i’r ganolfan.
Mae’r penderfyniad hwn wedi cael ei wneud gan Gyngor Sir Caerfyrddin a Cwm Environmental Ltd, sy’n gweithredu’r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref ar ran y Cyngor.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, sef yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Mae’r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn cael eu hariannu gan aelwydydd drwy gyfraniadau treth gyngor ac nid yw’n deg bod tagfeydd diangen a phroblemau o ran diogelwch yn ein safleoedd yn cael effaith arnynt oherwydd bod busnesau’n eu camddefnyddio nhw.
“Rydym yn gweithredu yn sgil cwynion ac adborth drwy ailgyflwyno cyfyngiadau uchder yn y safle.
“Rydym yn cydnabod y gall y newidiadau hyn gael effaith ar nifer fach o ddefnyddwyr sydd wirioneddol yn gwaredu gwastraff y cartref ond bod ganddynt gerbydau ag ochrau uchel, ac rydym yn ymddiheuro am yr anghyfleustra dros dro hyd nes y gellir dod o hyd i atebion yn y tymor hir.”
Mae Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 yn ei gwneud yn ofynnol i bob cerbyd sy’n cludo gwastraff masnachol gofrestru fel cludwr gwastraff a darparu nodyn trosglwyddo gwastraff dilys sy’n nodi amodau ar gyfer gwaredu gwastraff yn briodol.
Mae cyfleusterau gwaredu gwastraff masnachol ar gael yn Nant-y-caws, Caerfyrddin, neu gall busnesau drefnu casgliadau gwastraff masnach.
Dywedodd y Cyngor y bydd yn cynyddu patrolau a chamau gorfodi mewn perthynas â thipio anghyfreithlon yn sgil ailgyflwyno cyfyngiadau uchder yn y Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref.
Gallai unrhyw un sy’n cael ei ddal yn tipio’n anghyfreithlon gael dirwy o hyd at £50,000 neu wynebu carchar, yn ogystal â chael hysbysiadau cosb benodedig newydd yn y fan a’r lle o hyd at £350.
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y newidiadau yng Nghanolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref Trostre, cyfleusterau gwastraff masnachol, casgliadau gwastraff swmpus, ac ailgylchu, ar wefan y Cyngor, sef www.sirgar.llyw.cymru.
More Stories
Bydd yr etholiad yn diffinio ffawd economaidd Cymru am genhedlaeth
Mae Dave, goroeswr strôc o Sir Gaerfyrddin, wedi ymddangos mewn apêl ar y teledu dros y Gymdeithas Strôc
Cefnogaeth drawsbleidiol yn y Senedd i brosiect Pentre Awel yn Llanelli sydd yn werth £40m
Dathliadau Dydd Gŵyl Dewi yn Hywel Dda / St David’s Day celebrations at Hywel Dda
Amser yn brin i drigolion Porth Tywyn cronni talebau band eang tra chyflym
Ymestyn ymgyngoriadau sy’n cael eu cynnal o dan y Côd Trefniadaeth Ysgolion tan 16 Gorffennaf
Friendship Theatre Group launch documentary on last 26 years of Panto in Llanelli
Sir Gâredig – Rhannu Caredigrwydd Sir Gâr
Ymgynghoriadau ynghylch ysgolion ar y gweill
Helpwch Ni i’ch Helpu Chi pan gewch eich Derbyn mewn Argyfwng / Help Us to Help You when Admitted as an Emergency