MAE preswylwyr yn Sir Gaerfyrddin yn cael eu hatgoffa bod yr holl gasgliadau gwastraff na chafodd eu casglu ddydd Gwener diwethaf, bellach yn cael eu casglu ddydd Sadwrn (10 Mawrth).
Bydd casgliadau’r wythnos hon yn digwydd fel arfer.
Gofynnir i unrhyw breswylwyr, nad oedd eu gwastraff wedi cael ei gasglu ddydd Gwener (2 Mawrth) oherwydd yr amodau tywydd gwael, storio eu gwastraff hyd nes y casgliad ddydd Sadwrn.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol sy’n gyfrifol am yr Amgylchedd: “Penderfynwyd atal casgliadau sbwriel ddydd Gwener oherwydd effaith yr eira a rhew ar lawer o ardaloedd Sir Gaerfyrddin.
“Rydym yn gwerthfawrogi fod hyn wedi achosi anghyfleustra i lawer o aelwydydd, ond rydym yn sicr bod pobl yn deall na allwn beryglu diogelwch ein criwiau nac aelodau o’r cyhoedd.
“Mae ein criwiau yn gyrru cerbydau trwm ar ffyrdd a lonydd nad ydynt o bosibl wedi cael eu trin, ac er bod y ffyrdd yn iawn mewn rhai ardaloedd, effeithiwyd yn wael ar rannau eraill o’r sir.
“Nid yn unig y mae’n rhaid i’r criwiau gyflawni eu rowndiau ond rhaid iddynt hefyd gludo’r gwastraff i safleoedd tirlenwi ac ailgylchu, ac roedd llawer o’r rhain wedi cau oherwydd y tywydd.
“Yn hytrach, bu ein criwiau yn cefnogi ein tîm priffyrdd i roi graean ar lwybrau cerdded ac ardaloedd i gerddwyr yng nghanol trefi.
“Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i’r holl breswylwyr am eu dealltwriaeth a’u cydweithrediad ar y mater hwn.”
Bydd unrhyw gasgliadau gwastraff masnachol na chafodd eu casglu ddydd Gwener yn cael eu casglu fel arfer ddydd Gwener yma.