Monday, June 5, 2023
Newid gofal y GIG yn lleol

Newid gofal y GIG yn lleol

MAE Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cychwyn ar ei gam nesaf o raglen i drawsnewid y ffordd y mae gofal wedi’i gynllunio, gofal brys ac argyfyngol a gofal cymunedol y GIG yn lleol yn cael eu darparu yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Yn ystod yr haf, cynhaliwyd Sgwrs Fawr rhwng y BIP a’i staff, cleifion a defnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr, partneriaid a’r cyhoedd, sef Cyfnod Darganfod (gwrando ac ymgysylltu) y rhaglen Trawsnewid Gwasanaethau Clinigol.

Wedi casglu’r data hwnnw, ei ddadansoddi’n annibynnol a’i gyflwyno’n ffurfiol i’r Bwrdd Iechyd ym mis Tachwedd, cytunodd y Bwrdd i symud ymlaen i gam dau, sef y Cyfnod Dylunio.

Bydd y cam hwn yn defnyddio adborth o’r Sgwrs Fawr i ddatblygu opsiynau posibl ar gyfer darparu gwasanaethau gofal iechyd yn y dyfodol. Caiff y rhain eu profi, eu herio a’u lleihau mewn nifer gan staff GIG lleol, rhanddeiliaid a chynrychiolwyr cyhoeddus drwy’r Cyngor Iechyd Cymuned yn ystod yr 11 wythnos nesaf.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Trawsnewid Libby Ryan-Davies: “Rydyn ni mor ddiolchgar i bawb a gymerodd ran yn ein Sgwrs Fawr a roddodd o’u hamser, a rhannu eu harbenigedd a’u profiadau. Roedd pobl yn angerddol ac yn frwdfrydig ac rydym mor ffodus i allu manteisio ar hyn a defnyddio’r holl wybodaeth i baratoi a phrofi opsiynau wrth inni symud tuag at ymgynghoriad ffurfiol yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

“Yn y cyfamser, rydym am ddal diddordeb pobl fel eu bod nhw’n dychwelyd yn y gwanwyn yn barod i herio ac adolygu ein dewisiadau. Dyma ein hamser ni yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru i gyd-lunio ein gwasanaethau GIG, a hynny er ein mwyn ni ein hunain, ein teuluoedd a chenedlaethau’r dyfodol.”

A wyddoch chi?
• Llwyddodd bron i 400 o bobl lenwi holiadur yn ystod y Sgwrs Fawr, cynhaliwyd mwy nag 80 o ddigwyddiadau, a dewisodd 19 o bobl neu sefydliadau ysgrifennu atom yn annibynnol i rannu eu barn
• Ystyriwyd ysbytai fel yr amgylchedd mwyaf diogel i rai cleifion, ond gwelwyd cefnogaeth eang i ofal iechyd yn y gymuned, yn enwedig canolfannau ar gyfer mynd i’r afael â nifer o anghenion iechyd o dan un to
• Roedd ymatebwyr yn poeni nad oedd digon o adnoddau lleol, a bod yn rhaid i dimau weithio mewn modd mwy integredig a chydgysylltiedig
• Cyfeiriodd llawer o bobl at yr angen am fynediad amserol ym mhob lleoliad, a lleihau amseroedd aros
• Clywsom lawer hefyd am ymyrraeth ac atal cynnar
• Roedd pobl yn poeni am allu ein seilwaith trafnidiaeth i sicrhau bod cleifion yn medru cael mynediad at ofal

Defnyddir yr holl adborth i ddatblygu opsiynau pendant i’w cyflwyno gerbron y cyhoedd mewn ymgynghoriad ffurfiol yn ystod y gwanwyn. Am ddiweddariadau yn y cyfamser, ewch i www.bihyweldda.wales.nhs.uk/tgc

You May Have Missed

You are in breach of copyright
%d bloggers like this: