Mae lle chwarae newydd i blant yn rhan bwysig o gynllun adfywio gwerth miliynau o bunnoedd i drawsnewid ward Tŷ-isa, Llanelli.
Bydd y lle chwarae i blant yn cael ei adeiladu ar dir ger Stryd Ann yn dilyn ymarfer ymgynghori mawr â phreswylwyr a busnesau i greu cymuned fywiog lle mae pobl am fyw a gweithio.
Dangosodd adborth o’r ymgynghoriad nad oedd lle chwarae yn ward Tŷ-isa, sydd â’r dwysedd poblogaeth uchaf yn Sir Gaerfyrddin.
Mae’r lle chwarae yn un o amrywiol gamau gweithredu sydd wedi’u cynnwys yn y prif gynllun adfywio ar gyfer yr ardal.
Y gobaith yw y bydd gwaith ar y prosiect gwerth £100,000, sydd hefyd yn cynnwys man cerdded amgaeedig ar gyfer pobl a’u cŵn, yn dechrau fis nesaf ac yn cael ei orffen erbyn diwedd mis Mawrth.
Mae’r lle chwarae wedi cael ei ariannu gan refeniw tai’r Cyngor ynghyd â chyfraniadau gan Dŵr Cymru ac Arbed Am Byth.
Mae wedi cael ei ddatblygu mewn cydweithrediad llawn â Chyngor Tref Llanelli, a fydd yn gyfrifol am gynnal a chadw’r lle chwarae ar ôl iddo gael ei gwblhau.
Dywedodd y Cynghorydd Cefin Campbell, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Chadeirydd Grŵp Llywio Tŷ-isa: “Pan fuom yn ymgynghori â phreswylwyr, roedd yn amlwg eu bod nhw yn dyheu am le chwarae i blant ar gyfer yr ardal, sy’n gwbl ddealladwy oherwydd nid oes unrhyw gyfleusterau eraill i blant chwarae yn y ward.
“Rydym wrth ein boddau ein bod ni wedi gallu ariannu’r prosiect hwn gyda Dŵr Cymru ac Arbed Am Byth ynghyd â chydweithrediad y Cyngor Tref, a fydd yn gyfrifol am gynnal y parc. Os bydd popeth yn mynd yn ôl y bwriad, rydym yn gobeithio y bydd y lle chwarae yn agor yn barod ar gyfer gwyliau’r Pasg.”
Uchelgais hirdymor y Cyngor o ran adfywio ward Tŷ-isa yw darparu datblygiadau tai defnydd cymysg newydd, datblygu mwy o gyfleusterau cymunedol a defnyddio safleoedd busnes gwag unwaith eto.
Cymerir camau i wella’r amgylchedd ac i fynd i’r afael â throseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ynghyd â darparu cyfleoedd ar gyfer addysg, hyfforddiant a chyflogaeth.
Mae cyfanswm o £9.3million wedi cael ei ddyrannu o Raglen Adeiladu Tai Newydd y Cyngor (Cyfrif Refeniw Tai) yn benodol ar gyfer ardal Heol yr Orsaf er mwyn helpu i’w hadfywio.
Dywedodd y Cynghorydd Linda Evans, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Dai: “Mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn i’r ardal a dim ond y cyntaf o nifer o welliannau a datblygiadau newydd er budd cymuned leol Tŷ-isa yw’r lle chwarae.”
PENNAWD Y LLUN: Y cynllun ar gyfer y lle chwarae newydd i blant yn Nhŷ-isa.