Sunday, April 2, 2023
Naws Garibïaidd mewn bwyty newydd yng Nghaerfyrddin

Naws Garibïaidd mewn bwyty newydd yng Nghaerfyrddin

MAE pâr o Gaerfyrddin wedi gwireddu eu breuddwyd ar ôl 15 mlynedd, diolch i Gyngor Sir Caerfyrddin.

Mae George a Jennifer Eltom wedi dod â naws Garibïaidd newydd i Lôn Jackson, Caerfyrddin yn sgil agor eu bwyty newydd yn ddiweddar, sef The Reef.

Mae’r bwyty newydd sy’n cynnig prydau Caribïaidd traddodiadol megis Cyw iâr Jerk a reis cneuen goco, wedi’i addurno y tu mewn â phren a bambŵ i greu awyrgylch hamddenol.

Ond ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb gymorth grant o £27,700 gan Gronfa Mentrau Gwledig Sir Gaerfyrddin, sy’n annog busnesau gwledig i ddatblygu safleoedd a chreu swyddi newydd.

O ganlyniad i’w gweledigaeth a’u buddsoddiad eu hunain, mae’r pâr bellach yn cyflogi saith person yn eu bwyty ar y llawr cyntaf, gan gynnwys pedair swydd llawn amser.

Yn ogystal â’r fenter hon, maent hefyd yn parhau a’u swyddi pob dydd yn gofrestryddion yn Ysbyty Glangwili ac yn rheoli bar hufen iâ, sef Palm Kaye, ar y llawr gwaelod.

“Cawsom y syniad tua 15 mlynedd yn ôl,” meddai George. “Mae fy ngwraig a minnau yn rhedeg elusen ac rydym wedi treulio llawer o amser yn Belize lle rydym wedi cael ein hamgylchynu gan gerddoriaeth a bwyd Caribïaidd ac roeddem yn dymuno cyflwyno hyn yn y DU.

“Mae’n rhywbeth gwahanol ar gyfer Caerfyrddin, ac ar ôl i Lôn Jackson gael ei hailddatblygu, rydym yn gobeithio bydd hynny’n dda ar gyfer y busnes.

“Ni fyddai wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth Cyngor Sir Caerfyrddin, ac rydym yn ddiolchgar iawn ei fod wedi ein helpu i wireddu ein breuddwyd.”

Mae Cronfa Mentrau Gwledig Sir Gaerfyrddin yn cefnogi busnesau gwledig i ddatblygu safleoedd busnes newydd a phresennol, lle caiff swyddi newydd eu creu.

I gael rhagor o wybodaeth am gymorth busnes, ewch i’r adran fusnes ar wefan y Cyngor –www.sirgar.llyw.cymru 

You May Have Missed

You are in breach of copyright
%d bloggers like this: