MAE Mudiad Meithrin wedi penodi Pennaeth Datblygu Gwasanaethau presennol y Mudiad, Leanne Marsh i ymgymryd â swydd y Prif Weithredwr yn ystod cyfnod mamolaeth Dr Gwenllïan Lansdown Davies o 18 Mawrth hyd ddiwedd Mehefin eleni.
Hefyd, mae’n bleser gallu cyhoeddi mai Carys Gwyn, Rheolwr Talaith y Mudiad yn y Gogledd-ddwyrain, fydd yn ymgymryd â swydd Leanne am yr un cyfnod.
Dechreuodd Leanne, sy’n byw ym Maesycwmer ger Caerffili, weithio i Mudiad Meithrin yn 2000 fel Swyddog Datblygu Merthyr Tudful ac yna fel Cydlynydd Blaenau Gwent, Torfaen a Chaerffili.
Gadawodd y Mudiad yn 2004 i ennill mwy o brofiad fel swyddog datblygu cymunedol a rheolwr cyn dychwelyd i’r ‘un teulu mawr’ yn 2012 fel Rheolwr Talaith y De- Ddwyrain. Cafodd ei phenodi fel Pennaeth Adran Datblygu Gwasanaethau yn 2015.
Cafodd Leanne ei geni a’i magu ym Mhontypridd i deulu di-Gymraeg. Cafodd ei haddysgu yn Ysgol Heol Y Celyn yn Rhydyfelin, ac yna Ysgol Gyfun Rhydfelen cyn astudio gradd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor.
Dywedodd, Leanne:
“Penderfynodd fy nhad a mam i fy nanfon i Gylch Meithrin yn ddwy flwydd a hanner, a’r Cylch rhoddodd yr hyder ac a ddarbwyllodd fy rhieni i ddewis addysg Gymraeg ar fy nghyfer.
“Mae Mudiad Meithrin wedi bod yn rhan annatod o’m mywyd i ers o’n i’n ddwy oed yn ogystal â bywydau fy mhlant a’r teulu. Rwy’n gweld fy hun fel cynnyrch Cylch Meithrin ac yn ddiolchgar hyd heddiw eu bod nhw wedi annog fy rhieni i gymryd ‘y risg’ o ddewis addysg Gymraeg nôl yn y 70’au! Mae’n fraint cael gweithio i Mudiad Meithrin a bydd hi’n fraint llywio’r Mudiad dros gyfnod mamolaeth Gwenllian.”
Mae Carys Gwyn, sy’n hanu o Landudno ond sydd wedi byw yn Yr Wyddgrug ers 30 mlynedd, wedi gweithio i’r Mudiad er 2004 fel Swyddog Datblygu, Cydlynydd a Rheolwr ar draws y Gogledd a bellach fel Rheolwr Talaith y Gogledd-ddwyrain a’r Canolbarth. Cychwynnodd ei thaith â’r Mudiad flynyddoedd ynghynt pan ddaeth hi’n amser i’w phlant gychwyn yn y Cylch Ti a Fi a’r Cylch Meithrin gan gymryd rhan weithredol ar y pwyllgorau hynny.

Dywedodd Carys Gwyn:
“Wrth arwain ar waith Mudiad Meithrin yn y Gogledd-ddwyrain rwy’n hynod falch o ansawdd y gofal a’r addysg mae’r plant yn ei dderbyn o fewn y Cylchoedd a’r bartneriaeth arbennig sydd wedi ei meithrin â’r Awdurdodau Addysg.
“Mae gallu cefnogi pwyllgorau a gwirfoddolwyr yn eu gwaith yn hanfodol, ac mae’r cyfleon mae’r Mudiad yn ei gynnig i rieni sydd eisiau i’w plant gael profiad o Addysg Gymraeg trwy Clwb Cwtsh, grwpiau Cymraeg i Blant a’r holl Gylchoedd Meithrin a Chylchoedd Ti a Fi yn amhrisiadwy i ddyfodol Addysg Gymraeg.”
Dywedodd Prif Weithredwr Mudiad Meithrin, Dr Gwenllïan Lansdown Davies:
“Pob hwyl i Leanne, Carys a’r criw yn ystod y cyfnod nesaf. Byddaf yn gwylio o bell gan wybod y byddant yn mwynhau’r her newydd o fewn mudiad sydd mor agos at galon nifer o bobl dros Gymru. Fel darpar ddefnyddiwr gwasanaeth ‘Cymraeg i Blant’, Cylch Ti a Fi a – maes o law – y Cylch Meithrin, byddaf unwaith eto yn profi pwysigrwydd y gwaith a gyflawnir gan staff Mudiad Meithrin yn cefnogi ei holl aelodau gyda’n gwaith bara menyn.”
Yn sgil penodiad Carys, bydd Ceri Edwards yn cael ei dyrchafu’n Reolwr Talaith y Gogledd-ddwyrain dros dro o’i swydd fel Dirprwy Reolwr.