DDYDD Mercher Chwefror 20, am 2.00 y pnawn bydd Mudiad Meithrin yn lansio ‘Llyfr Mawr Piws’ yng Nghylch Meithrin Pentrebaen yng Nghaerdydd.
Canllaw newydd llawn gwybodaeth gynhwysfawr i bwyllgorau rheoli ar bob agwedd sy’n ymwneud â rheoli Cylch Meithrin yw’r Llyfr Mawr Piws, a’i nod yw cynnig arweiniad trwy wybodaeth drylwyr ar sut i reoli Cylch Meithrin a darpariaeth gofal plant yn llwyddiannus ynghyd ag enghreifftiau o dempledi a ffurflenni defnyddiol.
Ceir adrannau sydd yn berthnasol at waith y Pwyllgor Rheoli ac adrannau sydd yn berthnasol at waith staff y Cylch Meithrin. Mae’r canllawiau yn cynnig arweiniad ar faterion Iechyd a Diogelwch, cyfrifoldebau’r pwyllgor, ynghyd â materion staffio ac ariannol.
Mae’r Llyfr Mawr Piws yn adnodd fyw ac ymarferol sydd yn eich tywys drwy holl ofynion a busnes y Cylch Meithrin gan gynnig atodiadau cyfredol a dolenni i wefannau perthnasol.
Anogir pwyllgorau a staff y Cylchoedd i ddefnyddio’r Canllaw yma fel man cychwyn i unrhyw waith perthnasol gan gofio bod modd cysylltu â Swyddog Cefnogi lleol am gefnogaeth bellach.
Dywedodd Leanne Marsh, Pennaeth Datblygu Gwasanaethau Mudiad Meithrin:
“Mewn cyfnod lle mae polisïau cenedlaethol Llywodraeth Cymru megis y Cynnig Gofal Plant yn cynnig cyfleoedd i Gylchoedd Meithrin ehangu’u gwasanaethau a’u busnesau, gobeithiwn y bydd yr adnodd yma’n cynnig arweiniad a chymorth i bwyllgorau rheoli hen a newydd.”
Mae’r Llyfr Mawr Piws ar gael yn ddigidol trwy fewnrwyd Mudiad Meithrin i’w aelodau a bydd yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd yn unol ag unrhyw newidiadau mewn polisïau.