BYDD plant yn ardal Porth Tywyn bellach yn derbyn addysg Gymraeg o dair oed yn dilyn penderfyniad gan Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin.
Bydd darpariaeth feithrin blynyddoedd cynnar ran amser ar gael yn Ysgol Parc y Tywyn yn y dref ar gyfer disgyblion sy’n dair oed. Hyd yn hyn, mae’r ysgol dim ond wedi derbyn disgyblion sy’n bedair oed a hŷn.
Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i weithio’n agos gyda darparwyr gofal plant y sector preifat yn yr ardal er mwyn sicrhau y gall teuluoedd gael budd o’r gwasanaethau cofleidiol a lleihau’r effaith ar fusnesau lleol sef un o’r prif faterion a nodwyd yn ystod ymgynghoriad helaeth.
Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Gwasanaethau Plant: “Mae’r Cylch Meithrin ym Mhorth Tywyn wedi gwneud gwaith gwych yn y gorffennol. Bydd yr addysg feithrin dan sylw yn rhan-amser. Mae posibilrwydd i ni a’r ysgol feithrin weithio gyda’n gilydd er mwyn darparu gwasanaeth cofleidiol.”
Ar hyn o bryd, ceir darpariaeth blynyddoedd cynnar mewn 36 o ysgolion ledled Sir Gaerfyrddin, fodd bynnag, dywedodd y Cynghorydd Davies y gellir ymestyn hyn i’r holl ysgolion yn y dyfodol.
Mae grŵp Gorchwyl a Gorffen o gynghorwyr wedi cael ei sefydlu er mwyn edrych ar y mater.