MAE llwybr bwyd O Gawl i Gawl newydd yn cael ei lansio mewn pryd ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi.
Lluniwyd y llwybr gan Ddarganfod Sir Gâr, a’r nod yw denu pobl i roi cynnig ar y fersiynau creadigol sydd wedi’u datblygu o’r rysáit cawl cig oen traddodiadol, o ddefnyddio ham lleol ac ychwanegu cwrw, neu ei fwyta gyda chafiâr y Cymro.
Mae’r llwybr yn cynnwys cyfanswm o 17 bwyty (gydag amrywiaeth o dafarndai cysurus i ddelis arbennig) lle gall cwsmeriaid fwynhau’r straeon hanesyddol a blasu’r gwahanol ryseitiau, cynhwysion cyfrinachol a fersiynau cyfoes o’r hen ffefryn!
Lansiwyd O Gawl i Gawl yn 2015, ac mae’n dod yn ôl gan ei fod mor boblogaidd. Bydd yn fwy nag erioed eleni ac yn cynnwys llawer o sefydliadau newydd. Bydd pob busnes sy’n cymryd rhan yn gweini cawl poeth rhwng 1 Mawrth a 30 Ebrill 2018.
Ymysg y dewisiadau deniadol, gallwch gael Cawl Ham Cymreig gyda chaws Y Fenni a chafiâr y Cymro (gwymon wedi’i sychu a’i dostio) o Ginhaus Deli yn Llandeilo a chael picnic yn yr awyr agored. Neu gallwch ymlacio o amgylch y tân mewn un o dafarndai to gwellt hynaf Cymru, sef The White Hart, a blasu ei gawl unigryw a wneir â chwrw a haidd perlog. Yn Llanelli, mae bwyty Sosban yn gweini cawl gyda therîn tato a cheuled gafr, ac mae’r cawl yn Wright’s Food Emporium yn cynnwys cig coesgyn mochyn, cig ysgwydd oen a digonedd o lysiau. Gyda’r cawl rhoddir caws cheddar Hafod lleol, a bara graneri cartref.
Lle gwych arall yw Maddocks General Store, ym mhentref Tymbl Uchaf sy’n cynnig cawl blasus a wneir â chig eidion Cymreig, persli, pys, a’i sesnin arbennig cyfrinachol. Mae The Forest Arms, tafarn bentref gyda thanau agored yn Nyffryn Cothi, yn gweini cawl sy’n cynnwys cig oen Cymreig wedi’i goginio’n araf, gyda bara gwerinwr a chaws cheddar Cymreig. Bydd hen dafarn y Plash Inn ger Hendy-gwyn ar Daf yn rhoi cawl am ddim yn ystod holl Gemau Cymru ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad!
Mae cawl yn crynhoi hanes bwyd Sir Gaerfyrddin i’r dim, gan ei fod wedi bod yn un o ffefrynnau’r sir ymhlith bwydgarwyr ers canrifoedd.
Meddai Simon Wright o Wright’s Food Emporium: “Er bod cawl yn cynnwys cig dafad neu gig oen o’r Mynydd Du yn draddodiadol, mae bob amser yn agored i ddehongliad, a dyma beth sy’n sicrhau profiad mor arbennig pan fydd pobl yn ei flasu ledled y sir. Gan fod cawl yn cynnwys cig wedi’i goginio’n araf ac isgell blasus, llwyth o wreiddlysiau, cennin a garlleg gwyllt, mae’n berffaith ar gyfer y gaeaf ac mae’n enghraifft arbennig o fwyd wedi’i goginio’n araf.”
I weld manylion llawn pob bwyty sy’n cymryd rhan yn y llwybr O Gawl i Gawl, yn ogystal â map sy’n dangos sut i’w ddilyn, ewch i www.darganfodsirgar.com