MAE lle chwarae newydd wedi agor ym Mharc Gwledig Llyn Llech Owain, Gors-las.
Mae’r lle chwarae, sy’n cynnwys elfennau o chwedl Llyn Llech Owain, ger mynedfa’r Parc.
Eisoes, mae’n boblogaidd ymhlith disgyblion Ysgol Gors-las wedi iddynt gael eu gwahodd i fod y cyntaf i roi cynnig ar y lle chwarae pan agorodd yn swyddogol ddydd Gwener, 4 Mai.
Mae mwy na 40 nodwedd yn rhan o’r lle chwarae gan gynnwys castell, si-so, sleidiau, siglenni a llawer mwy, i gyd yn seiliedig ar y thema marchogion.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi buddsoddi mwy na £70,000 ar adnewyddu’r ardal, wedi i’r hen le chwarae gau am resymau iechyd a diogelwch.
Mae’r lle chwarae newydd wedi’i ddylunio a’i osod gan gwmni Kompan.
Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Rwyf wrth fy modd i ddweud bod y lle chwarae newydd wedi ailagor cyn penwythnos Gŵyl y Banc. Mae yno amrywiaeth eang o offer newydd ac rwy’n siŵr y bydd ymwelwyr ifanc sy’n dod i’r Parc yn mwynhau mas draw. Byddwn yn annog teuluoedd i ddod i Lyn Llech Owain er mwyn creu rhai atgofion arbennig!”
Mae Parc Gwledig Llyn Llech Owain ynghanol 158 erw o goetir lle ceir llwybrau natur a llyn yn y canol. Mae llwybrau pwrpasol yn caniatáu i bobl gerdded dros y gors ac o amgylch y llyn yn ddiogel.
Yn ôl y chwedl, Owain Lawgoch oedd yn gofalu am y ffynnon ar fynydd Mynydd Mawr. Bob dydd, ar ôl cael digon o ddŵr iddo ef a’i geffyl, rhoddai Owain y garreg fawr yn ôl yn ofalus dros y ffynnon. Ond un tro anghofiodd Owain wneud hynny a llifodd dŵr o’r ffynnon i lawr llethr y mynydd. O ganlyniad, ffurfiwyd llyn ac fe’i henwyd yn Llyn Llech Owain.
Dywedodd yr aelodau lleol sef y Cynghorwyr Aled Vaughan Owen a Darren Price: “Roedd yr hen barc yn cael ei ddefnyddio’n aml iawn ac fel aelodau lleol, rydym yn hynod o falch bod y Cyngor Sir wedi buddsoddi arian er mwyn datblygu’r parc newydd gwych hwn.”