Saturday, April 1, 2023

LEADER: Galw am syniadau am brosiectau newydd ac arl

MAE’R rhaglen LEADER newydd, sy’n ceisio helpu i adfywio ardaloedd gwledig Sir Gaerfyrddin, wedi agor galwad newydd am Fynegiannau o Ddiddordeb.

Nod LEADER yw cael pobl, busnesau a chymunedau lleol sy’n ymwneud â darparu atebion cynaliadwy ac arloesol i fynd i’r afael â rhai o’r heriau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol sy’n wynebu ardaloedd gwledig Sir Gaerfyrddin. Mae’r Grŵp Gweithredu Lleol – Grŵp Cefn Gwlad yn rheoli’r rhaglen LEADER yn Sir Gaerfyrddin.

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Mae’r mathau o brosiectau y gellir eu cyllido yn cynnwys y canlynol:

·         Prosiectau peilot – gweithgareddau bach cyfnod cyfyngedig sy’n profi cysyniad neu sy’n rhoi cynnig ar dechneg flaengar, e.e. treialu ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau gwledig gan ddefnyddio technoleg fodern

·         Astudiaethau dichonoldeb ar gyfer cynnal ymchwil i fater neu broblem benodol

·         Cymorth hwyluso a mentora i sefydliadau a grwpiau er mwyn helpu i ddatblygu eu sgiliau a’u harbenigedd.

Gall y rhaglen roi cymorth ariannol o hyd at 80% tuag at gostau prosiect.

Gall y Grŵp Gweithredu Lleol hefyd gefnogi prosiectau sy’n cydweithredu ag ardaloedd daearyddol eraill. Os oes gennych syniad arloesol i fynd i’r afael ag unrhyw rai o’r themâu uchod drwy weithio rhyngranbarthol neu drawswladol, cysylltwch â thîm y Cynllun Datblygu Gwledig.

Dywedodd y Cynghorydd Cefin Campbell, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig: “Mae rhaglen LEADER yn gynllun gwych sy’n galluogi unigolion, busnesau a chymunedau i ddarparu ac i brofi syniad sy’n ceisio bodloni blaenoriaethau strategol ar gyfer y Sir. Byddem yn annog unrhyw un sydd â syniad tebyg i gysylltu â ni a gall ein swyddogion drafod y peth ymhellach.”

Os oes gennych undryw syniad arloesol sy’n cyfeirio at flaenioraethau’r rhaglen, gallwch gysylltu â thîm y Cynllun Datblygu Gwledig drwy ffonio 01267 242431; neu drwy e-bostio RDPsirgar@sirgar.gov.uk. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Mynegiannau o Ddiddordeb yw Mawrth 16 2018.

You May Have Missed

You are in breach of copyright
%d bloggers like this: