Thursday, March 23, 2023
Lansio Ymgyrch Byddwch Ddiogel, Byddwch Garedig (Ymgyrch SANTA)

Lansio Ymgyrch Byddwch Ddiogel, Byddwch Garedig (Ymgyrch SANTA)

MAE’N ddiwrnod cyntaf Rhagfyr, sy’n nodi dechrau’r cyfnod sy’n arwain at y Nadolig, a’r diwrnod rydyn ni’n lansio ymgyrch Nadolig Heddlu Dyfed-Powys, sef Ymgyrch Byddwch Ddiogel, Byddwch Garedig (Ymgyrch SANTA).

‘Gwell amser nag anrheg’ yw neges yr heddlu i drigolion Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys y Nadolig hwn. Lansiodd Rhingylliaid yr Adran Gŵn, Steve Glynn ac Andrew Oxley, Donovan Kerr, Swyddog Cefnogi Cymunedol yr Heddlu (SCCH) Llandeilo a’r Cŵn Heddlu Jazz ac Aly’r ymgyrch ym Methlehem, pentref gwledig yn Sir Gaerfyrddin.

Mae’r ymgyrch dymhorol yn pwysleisio ymrwymiad yr heddlu i’r gymuned ac yn atgoffa pobl sut i fwynhau eu hunain yn ddiogel drwy ddarparu cymysgedd o gyngor diogelwch, negeseuon sy’n atgoffa am ganlyniadau cyflawni troseddau, mewnwelediad i fywyd tu ôl i’r llenni yn Heddlu Dyfed-Powys adeg y Nadolig, a llawer o hwyl a syrpreisis ar hyd y ffordd.

Bydd swyddogion heddlu hefyd yn cynnal mwy o batrolau yn ystod y Nadolig er mwyn atal ymddygiad gwrthgymdeithasol a throsedd a chynnig sicrwydd a hyder yn eu cymunedau er mwyn helpu pobl i deimlo’n ddiogel.

Dywedodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Dros Dro Pam Kelly: “Gall y Nadolig fod yn gyfnod anodd i rai, yn arbennig y rhai sy’n unig neu’n agored i niwed. Mae ein ffocws eleni ar amser nid anrhegion, fel bod neb yn teimlo nad oes ganddynt gymorth dros yr ŵyl.

“Rydyn ni’n ymfalchïo yn y ffaith ein bod ni’n heddlu’n cymunedau ac yn heddlu ar gyfer ein cymunedau, a byddwn ni’n gwneud safiad cryf yn erbyn y rhai sy’n achosi diflastod i eraill yr adeg hon o’r flwyddyn.

“Rydyn ni’n ffodus yn Nyfed-Powys i fyw neu weithio mewn lle diogel gyda throsedd isel, ond yn ystod dathliadau’r Nadolig, gall fod yn hawdd anghofio cymryd y rhagofalon synhwyrol rydyn ni fel arfer yn eu cymryd. Trwy Ymgyrch SANTA, byddwn ni’n atgoffa pobl am yr hyn y gallant wneud i gadw’u hunain, eu hanwyliaid a’u heiddo’n ddiogel.

“Mae ein ffigurau trosedd yn dangos mai’r drosedd sy’n cynyddu fwyaf adeg y Nadolig yw ymosod cyffredin. Gwyddom fod hyn yn aml o ganlyniad i ormod o alcohol. Er nad ydyn ni am ddifethaf hwyl pobl adeg y Nadolig, rhan o’n dyletswydd plismona trwy Ymgyrch SANTA yw atgoffa pobl am ganlyniadau cyflawni’r math hwn o drosedd. Maen nhw’n cynnwys: niweidio dioddefydd yn barhaol, neu hyd yn oed ei ladd; cofnod troseddol neu ddedfryd o garchar, a allai effeithio ar gynlluniau gyrfa neu deithio yn y dyfodol, a chael eich gwahardd o dafarndai, barrau a chlybiau. Y peth gorau i’w wneud pan fyddwch chi’n wynebu gwrthdaro neu drais yw cerdded i ffwrdd.

“Rwy’n gobeithio y bydd pawb yn mwynhau Ymgyrch SANTA, ac yn teimlo bod y wybodaeth a roddir yn ddefnyddiol ar gyfer eu cadw’n ddiogel dros yr ŵyl.”

Am gyngor rheolaidd ar gyfer y Nadolig, cadwch lygad allan am ein calendr adfent #YmgyrchSanta ar dudalen Facebook Heddlu Dyfed-Powys (www.facebook.com/DPPPolice). Yn ogystal, dilynwch ni ar Twitter @DyfedPowys.

You May Have Missed

You are in breach of copyright
%d bloggers like this: