
Mae dwy uned sydd wedi’u hadnewyddu ar gyfer siopau a phedair fflat newydd sbon wedi’u lansio yng nghanol tref Llanelli.
Y prosiect adnewyddu hwn yw rhan gyntaf cynllun cyffredinol, dan arweiniad Cyngor Sir Caerfyrddin, i adfywio’r dref a denu siopwyr.
Mae swyddogion wrthi’n marchnata’r unedau ar gyfer siopau ar Stryd Stepney i ddenu busnesau newydd i’r stryd hon, sef un o brif strydoedd siopa’r dref, a bydd tenantiaid yn symud i fflatiau newydd Tŷ Stepni yn fuan.
Roedd yr adeiladau ymhlith y rhai cyntaf a brynwyd gan Gyngor Sir Caerfyrddin fel rhan o gynllun Stryd Cyfleoedd, lle gwneir buddsoddiad drwy brynu unedau gwag o ddwylo preifat a dechrau gweithio arnynt er mwyn iddynt ddychwelyd i’r farchnad.
Rhoddwyd hwb i arian cyllideb gyfalaf y Cyngor gan i Lywodraeth Cymru ddarparu cyllid o’i chronfa Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid.
Ers 2014, prynwyd 15 eiddo ac un safle datblygu, sy’n golygu y gall y cyngor farchnata a denu busnesau newydd, gosod lefelau rhent fforddiadwy i helpu busnesau i sefydlu eu hunain, a chreu llety preswyl o safon uwchlaw lefel y stryd.
Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor: “Mae ein prosiect Stryd Cyfleoedd eisoes wedi dechrau gwella golwg canol tref Llanelli, a gobeithio y bydd hyn yn dod â hyder newydd i Lanelli fel lle i fuddsoddi ynddo a gwneud busnes.
“Rydym wedi ennill rheolaeth dros bortffolio o adeiladau yng nghanol y dref sy’n rhan o’n cynlluniau hirdymor i sicrhau bod gofod masnachol hwylus a fforddiadwy ar gael i unigolion a busnesau sy’n bwriadu cael dylanwad ar yr economi leol.
“Rydym yn falch o fod wedi lansio’r cyntaf o’r adeiladau a adnewyddwyd yr wythnos hon, sy’n dangos ein hymrwymiad fel Cyngor i adfywio canol tref Llanelli.
“Rydym yn edrych ymlaen at groesawu dau fusnes newydd i’r unedau adwerthu a’r tenantiaid cyntaf i fflatiau newydd Tŷ Stepni, a hynny yn y dyfodol agos iawn.”