MAE prosiect newydd wedi cael ei lansio i recriwtio gwirfoddolwyr a chreu mwy o gyfleoedd gwirfoddoli yn y Sir Gaerfyrddin wledig.
Nod y Rhaglen Gwirfoddoli Gwledig, sy’n cael ei harwain gan Gymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr (CAVS) yw mynd i’r afael ag ystod o faterion sy’n ymwneud â gwirfoddoli mewn ardaloedd gwledig, gan gynnwys ehangu’r cyfleoedd, darparu hyfforddiant i wirfoddolwyr a hyrwyddo’r gwerthoedd iechyd a llesiant a’r gwerthoedd cymdeithasol a chymunedol sydd ynghlwm wrth wirfoddoli.
Bydd y prosiect hefyd yn darparu ar gyfer cymunedau mwy gwledig drwy ei uned wirfoddoli symudol.
Dywedodd y Cynghorydd Cefin Campbell, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros gymunedau a materion gwledig, Cyngor Sir Caerfyrddin: “Mae manteision niferus i wirfoddoli. Gall gwirfoddoli ehangu gorwelion a sgiliau yn ogystal â gwella cyflogadwyedd. Gall gwirfoddolwyr hefyd fod yn ased arbennig i sefydliadau a chwmnïau sy’n eu recriwtio.
“Mae hwn yn brosiect gwych i helpu ein hardaloedd gwledig ac rydym wrth ein bodd ei gefnogi.”
Bydd yr Uned Gwirfoddoli Gwledig symudol yn edrych ar ardal Tywi drwy gydol mis Chwefror gan ymweld â chynifer o ardaloedd â phosibl. Mae ardaloedd eraill i’w hymweld â nhw yn ystod y flwyddyn yn cynnwys Hendy-gwyn ar Daf a Sanclêr, Llanybydder, Castellnewydd Emlyn, Llandeilo a Llanymddyfri, y Gwendraeth a Glanaman. Mae amserlen ar gyfer ymweliadau’r prosiect ar gael drwy fynd i www.cavs.org.uk