MAE cynigion yn cael eu derbyn nawr ar gyfer cystadleuaeth Bwrsariaeth y Goleudy eleni.
Anogir darpar entrepreneuriaid o’r sir i gymryd rhan yn y gystadleuaeth eleni a lansiwyd ar Gampws y Graig, Coleg Sir Gâr.
Mae’r wobr sydd ar gael wedi cynyddu eleni i £5,000, yn ogystal â swyddfa am ddim am flwyddyn yng Nghanolfan Fenter y Goleudy yn Nafen, Llanelli. Hefyd, cynigir cymorth mentora i’r enillydd, er mwyn ceisio datblygu ei fusnes. Bydd y sawl sy’n dod yn ail ac yn drydydd yn cael £2,000 a swyddfa am ddim am chwe mis a £1,000 a swyddfa am ddim am chwe mis, yn y drefn honno.
Mae Bwrsariaeth y Goleudy yn agored i fyfyrwyr addysg bellach ac addysg uwch sy’n byw yn Sir Gaerfyrddin neu sy’n bwriadu sefydlu eu busnes yn y sir.
Mae’r gystadleuaeth flynyddol yn cael ei chynnal gan Gyngor Sir Caerfyrddin, ar y cyd â Choleg Sir Gâr a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, ac mae’n rhan o ymrwymiad y Cyngor i ddatblygu entrepreneuriaeth yn y sir.
Yr enillydd y llynedd oedd Lian Cara Poulson o Lanymddyfri, a’i chynnig buddugol oedd sefydlu ei label ffasiwn ei hun. Roedd ei chyfuniad o dalent greadigol, gweledigaeth fasnachol a’i chynllun busnes a’i chyflwyniad proffesiynol wedi gwneud argraff ar y beirniaid.
Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin: “Nod y gystadleuaeth hon yw meithrin entrepreneuriaid yn ein sir ac nid yn unig cynnig cyfle iddynt gael canolfan i ddatblygu eu busnes, ond darparu cymorth gan dîm o fentoriaid busnes o’r sector preifat a’r sector cyhoeddus.
“Mae enillwyr blaenorol wedi dweud wrthym pa mor werthfawr oedd ennill y gystadleuaeth hon ac edrychaf ymlaen at ddarganfod yr holl entrepreneuriaid newydd y byddwn yn cwrdd â nhw drwy’r gystadleuaeth eleni.”
Dywedodd Barry Liles, Pennaeth Coleg Sir Gâr: “Dyma gyfle gwych i rywun nid yn unig ddechrau neu ddatblygu eu busnes eu hunain ond derbyn y cymorth mentora sy’n hollbwysig wrth ddechrau busnes llwyddiannus.
“Y llynedd, roeddem yn falch iawn o gyflwyno’r wobr i Lian, myfyrwraig oedd yn astudio am radd mewn ffasiwn, ac ers hynny mae hi wedi parhau â’i busnes, ac yn ddiweddar cafodd ei gydnabod a’i gyhoeddi yng nghylchgrawn Vogue.”
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno mynegiannau o ddiddordeb yw 29 Mawrth, 2018. Cysylltwch âLJEdwards@sirgar.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’r wefan, http://www.beacon-enterprise.co.uk/cy/canolfan-menter/bwrsarir-goleudy/