HEDDIW [6 Mawrth 2017] mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn lansio ei ymgyrch recriwtio ar gyfer ei wasanaethau paediatrig ar draws Sir Gâr, Ceredigion a Sir Benfro.
Mae gwasanaethau gofal iechyd plant yn cael eu darparu ar draws y tair sir mewn amrywiaeth o wasanaethau mewn-ysbyty, gwasanaethau cleifion allanol a gwasanaethau cymunedol mewn gwahanol leoliadau ym mhob sir ac mae’r Bwrdd Iechyd Prifysgol yn gweithio’n galed i godi proffil ei wasanaethau, yn ogystal â’r buddion y mae’n cynnig i ymgeiswyr posibl sydd am ddod i weithio yng ngorllewin Cymru.
Mae tudalen we bwrpasol, sy’n darparu gwybodaeth am y cyfleoedd recriwtio gyda’r gwasanaeth paediatrig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi ei lansio heddiw. Mae’n cynnwys fideo byr, tystebau a gwybodaeth am y gwasanaethau sy’n cael eu darparu’n lleol.
Ewch i’r dudalen: www.bihyweldda.wales.nhs.uk/RecriwtioPediatrig
Dywedodd Simon Fountain-Polley, Arweinydd Clinigol Pediatreg Acíwt, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae gweithio yng ngorllewin Cymru yn cynnig y cyfle i gyfuno gwaith clinigol arloesol a heriol yn erbyn cefndir arfordirol a mynyddig anhygoel.
“Rydym am ddatblygu ein tîm sefydledig â chyd-weithwyr sy’n dod â hanfodion ymarfer paediatrig cyffredinol ynghyd â diddordebau arbennig. Rydym yn sicrhau bod gan ein poblogaeth leol fynediad at ofal modern, safonol tra’n gweithio ochr yn ochr â’n teuluoedd i ddarparu mwy o ofal cleifion allanol a gofal yn y gymuned. Rydym wedi bod yn llwyddiannus yn ail-gyflunio ein gwasanaethau paediatrig i godi safonau clinigol mewn gofal newydd-anedig a gofal paediatrig dibyniaeth uchel, â’r nod o gyfuno hyn â datblygiadau arloesol newydd er mwyn darparu gofal sydd wir yn diwallu’r anghenion gwledig a threfol yn lleol. Rydym yn adeiladu gweithlu mwy amrywiol, â chefnogaeth ein rota o ymgynghorwyr di-breswyl, sy’n golygu ni fu erioed amser gwell i ddod i weithio gyda ni.”
Dywedodd Lisa Gostling, Cyfarwyddwr Y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol: “Mae gennym lawer i’w gynnig i bobl sydd am symud, neu ddychwelyd, i weithio yng ngorllewin Cymru. Rydym yn datblygu ffyrdd o gefnogi mwy o hyblygrwydd yn barhaus, gyda rhannu swydd a gweithio rhan-amser eisoes yn gyffredin ar draws y sefydliad.
“Rydym yn darparu mynediad at gyfleoedd hyfforddiant ac addysg arloesol ac yn cefnogi iechyd a lles ein staff i gyflawni cydbwysedd priodol rhwng bywyd a gwaith yn y byd cyflym sydd ohoni. Rydym hefyd yn cynnig buddion unigryw i staff er mwyn denu’r ymgeiswyr gorau ar gyfer y swydd a’r bobl orau o ofalu am ein poblogaeth leol.”
“Mae’r ymgyrch hon yn rhan o’n hymgyrch recriwtio ehangach i ddenu meddygon, nyrsys a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill. Rydym yn obeithiol y byddwn yn creu mwy o ddiddordeb yn y bobl sy’n ystyried dod i fyw a gweithio yn y rhan hyfryd hon o Gymru”.
Mae ymdrechion sylweddol yn parhau i recriwtio i swyddi yn y Bwrdd Iechyd Prifysgol, sydd yn estyn y tu hwnt i gynulleidfaoedd Cymru a’r DU, i’r byd cyfan. Mae cyfres o ddigwyddiadau allweddol yn cael eu cynllunio hefyd ar gyfer y flwyddyn i ddod, yn cynnwys diwrnodau recriwtio agored sy’n gyfle i wasanaethau iechyd yn yr ardal i ddangos sut, er eu bod yn wasanaethau bach gwledig, y gallant ddal arwain y ffordd wrth ddatblygu gwasanaethau lleol a chenedlaethol.
Ar hyn o bryd, mae diwrnodau agored wedi eu trefnu yn Ysbyty Bronglais ar ddydd Gwener 31 Mawrth 2017 ac Ysbyty Llwynhelyg ar ddydd Sadwrn 10 Mehefin 2017, ac un ar y gweill ar gyfer Ysbyty Glangwili.
Am y newyddion diweddaraf a swyddi y gallai fod o ddiddordeb i chi neu gyfaill i chi, dilynwch y Bwrdd Iechyd Prifysgol:
ar Twitter @SwyddiHywelDda
ar LinkedIn yn: www.linkedin.com/company/hywel-dda-university-health-board, neu
ewch i: www.bihyweldda.wales.nhs.uk/gweithioini