Saturday, April 1, 2023
Hwb gwasanaethau cwsmeriaid i ganol tref Rhydaman

Hwb gwasanaethau cwsmeriaid i ganol tref Rhydaman

MAE cynlluniau i gyflwyno Hwb gwasanaethau cwsmeriaid y cyngor yng nghanol tref Rhydaman wedi dod gam yn agosach.

Mae Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cytuno i sefydlu Hwb yn Rhydaman er mwyn cynnig mynediad wyneb yn wyneb i ystod eang o wasanaethau’r cyngor a darparu cymorth o ran anghenion cyflogaeth, hyfforddiant a gwirfoddoli.

Bydd yn dilyn model Hwb llwyddiannus canol tref Llanelli sy’n cael ei ddefnyddio’n helaeth gan y cyhoedd ac sy’n helpu i ddod â mwy o bobl i’r brif ganolfan fanwerthu.

Bellach mae gwaith yn mynd rhagddo i ddod o hyd i eiddo addas yng nghanol Rhydaman.

Pan fydd wedi agor, bydd yr Hwb yn darparu gwasanaethau cwsmeriaid, desg arian parod, cymorth tai, rhaglenni ymgysylltu â chyflogaeth a chyfleusterau TG i gefnogi pobl sy’n chwilio am gyflogaeth, addysg, prentisiaethau a chyfleoedd gwirfoddoli.

Mae’r Cyngor yn trafod â darpar bartneriaid i gydweithio â hwy yn yr Hwb er mwyn cynnig hyd yn oed yn rhagor o wasanaethau yng nghanol y dref.

Dywedodd y Cynghorydd David Jenkins, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau: “Rydym wedi bod yn cynllunio i ddod â Hwb i ganol tref Rhydaman ers peth amser wrth ystyried llwyddiant y model yn Llanelli.

“Fel Bwrdd Gweithredol rydym yn falch ein bod wedi ymrwymo cyllid ac wedi gofyn i swyddogion i nodi a phrynu adeilad addas.

“Os bydd popeth yn mynd yn ôl y disgwyl, rydym yn rhagweld bydd yr Hwb yn agor yn yr Hydref.

“Rydym yn gwybod o brofiad bod yr Hwb yn denu llawer o bobl i’r dref i gael mynediad at ystod eang o wasanaethau gan y Cyngor a’n partneriaid. Mae hyn hefyd yn dod â’n staff i ganol y dref a fydd eu hunain yn cefnogi busnesau sy’n bodoli eisoes yn yr ardal.

“Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn newyddion i’w groesawu ar gyfer Rhydaman.”

You May Have Missed

You are in breach of copyright
%d bloggers like this: