BYDD y rheiny sy’n cyfoethogi ein bywydau drwy gerddoriaeth, y celfyddydau a llenyddiaeth yn cael eu cydnabod yng Ngwobrau Dathlu Diwylliant cyntaf Sir Gaerfyrddin.
Nod y gwobrau, a lansiwyd gan Gyngor Sir Caerfyrddin, yw dathlu rhagoriaeth ym maes diwylliant a’r celfyddydau, ac arddangos ein cyflawniadau diwylliannol ym mhob rhan o’r sir.
Cynhelir y gwobrau ym mis Ebrill a byddant yn tynnu sylw at bwysigrwydd diwylliant yn ein rhanbarth.
Maent yn agored i unrhyw un sy’n byw neu’n gweithio yn Sir Gaerfyrddin, neu sy’n hanu o’r sir, a wnaeth gyfraniad sylweddol i ddiwylliant Sir Gaerfyrddin yn ystod 2017.
Bydd unigolion, grwpiau a sefydliadau i gyd yn cael eu hystyried ar gyfer gwobrau mewn amrywiaeth o gategorïau gyda’r nod o hoelio sylw ar bob math o’r celfyddydau diwylliannol yn Sir Gaerfyrddin.
Y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, sy’n hyrwyddo’r cynllun gwobrau ac mae’n credu y gallai fod yn ddathliad blynyddol.
“Rydym yn ffodus o fod â threftadaeth ddiwylliannol gyfoethog yma yn Sir Gaerfyrddin lle mae llawer o artistiaid nodedig, mawrion llenyddol a sêr y llwyfan a’r sgrin yn parhau i’n hysbrydoli heddiw,” meddai.
“Wrth lansio’r gwobrau hyn, rydym am ddathlu’r rheiny sy’n cyfoethogi ein bywydau ac yn bywiogi’r sir wych hon heddiw.
“Ein gobaith yw mai megis dechrau yw hyn, ac y bydd y gwobrau’n ffordd i gydnabod ein pobl ddawnus a mwynhau eu talentau.”
Mae chwe chategori yn agored ar gyfer enwebiadau. Dyma nhw:
Rhagoriaeth yn y Celfyddydau Perfformio
Cydnabod perfformiwr neu grŵp o berfformwyr neu sefydliad a wnaeth argraff arbennig yn ystod 2017. Gall hyn gynnwys theatr, dawns, iaith lafar, a chomedi (ond nid yw’n gyfyngedig i hynny).
Rhagoriaeth yn y Celfyddydau Gweledol a Chrefftau
Cydnabod unigolyn, grŵp neu sefydliad sy’n gweithio ym maes y celfyddydau gweledol, dylunio, ffotograffiaeth neu grefftau y mae eu gwaith wedi gadael argraff a fydd yn para yn ystod 2017.
Rhagoriaeth yn y Cyfryngau Creadigol
Cydnabod cyflawniadau unigolyn, grŵp neu sefydliad yn y cyfryngau creadigol yn ystod 2017. Gallai hyn gynnwys Ffilm, Animeiddio, Dylunio Graffeg, Dylunio Gemau, a Chelf Ddigidol (ond nid yw’n gyfyngedig i hynny).
Rhagoriaeth mewn Llenyddiaeth
Cydnabod unigolyn, grŵp neu sefydliad rhagorol sy’n gweithio ym maes ysgrifennu creadigol, llenyddiaeth, rhyddiaith neu farddoniaeth a wnaeth argraff arbennig yn ystod 2017.
Rhagoriaeth mewn Treftadaeth
Cydnabod rhagoriaeth gan unigolyn, grŵp neu sefydliad sydd wedi codi proffil neu wedi dathlu hanes a threftadaeth Sir Gaerfyrddin yn ystod 2017.
Rhagoriaeth mewn Cerddoriaeth
Cydnabod cyflawniadau unigolyn, grŵp neu sefydliad ym maes cerddoriaeth yn ystod 2017. Gall hyn gynnwys cerddorion, cantorion, arweinwyr a chyfansoddwyr (ond nid yw’n gyfyngedig i hynny).
Bydd y beirniaid yn cyflwyno dwy wobr arbennig:
Talent Ifanc
Unigolyn neu grŵp, o dan 25 oed, sy’n gweithio mewn unrhyw ddisgyblaeth, sy’n dangos gwir botensial a thalent yn gymharol ifanc.
Cyfraniad Eithriadol i Ddiwylliant
Mae’r wobr hon ar gyfer rhywun sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i’r celfyddydau a diwylliant yn Sir Gaerfyrddin dros gyfnod hir.
Bydd panel beirniadu yn dewis rhestr hir, ac yna rhestr fer, cyn dewis enillydd y wobr a dau arall sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol ym mhob categori.
Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw dydd Gwener, 23 Chwefror am 5pm. Gall pobl enwebu unigolion, grŵp neu sefydliad ar-lein drwy fynd i www.surveymonkey.co.uk/r/cultureawards2018