MAE 13 o fusnesau Sir Gaerfyrddin wedi cael eu cydnabod am eu cyflawniadau yn y diwydiant adeiladu.
Mae Gwobrau Rhagoriaeth Adeiladu 2018, Rheoli Adeiladu Awdurdodau Lleol Sir Gaerfyrddin, yn cydnabod cwmnïau a phartneriaethau rhagorol, yn ogystal ag unigolion sy’n mynd yr ail filltir.
Dewisir prosiectau drwy gydol y flwyddyn gan Syrfewyr Rheoli Adeiladu Cyngor Sir Caerfyrddin, sy’n enwebu cynlluniau gwych ar gyfer y gwobrau blynyddol.
Mae’r gwobrau hefyd yn ystyried elfennau hollbwysig gan gynnwys: lefelau uchel o gydymffurfio â rheoliadau adeiladu; perthynas waith effeithiol gyda syrfewyr Rheoli Adeiladu Awdurdodau Lleol; crefftwaith rhagorol; arloesedd technegol; cynaliadwyedd a pherfformiad o safon uchel; y gallu i ddatrys problemau technegol gan ddefnyddio atebion creadigol, a defnyddio nwyddau a sgiliau arloesol i oresgyn amodau anodd ar safleoedd.
Mae’r enillwyr yn cynnwys y canlynol:
· Estyniadau a Newidiadau Gorau: Treharne Homes Ltd
· Yr Adeiladwr Lleol neu’r Crefftwr Traddodiadol Gorau: Firth & Son
· Y Newid Defnydd/Gwaith Addasu Gorau i Adeilad: The Old School Carpentry Co
· Y Cartref Unigol Newydd Gorau: Moelfre Developments
· Y Datblygiadau Tai Newydd Gorau ar Raddfa Fach: Martin Taffetsauffer
· Y Tai Cymdeithasol neu’r Tai Fforddiadwy Gorau: Tycroes Group
· Yr Adeilad Gwasanaeth Cyhoeddus Gorau: Manor Homes
· Yr Adeilad Addysg Gorau: Manor Homes
· Yr Adeilad Masnachol Bach Gorau: Peter Morris
· Yr Adeilad Cynhwysol Gorau: Peter Morris
· Y Bartneriaeth Orau: Sauro Architectural Design Ltd
· Gweithiwr Proffesiynol Gorau y Safle Adeiladu – Preswyl: Niels Nicolaysen
· Gweithiwr Proffesiynol Gorau y Safle Adeiladu – Dibreswyl: Peter Morris
Bydd yr holl enillwyr bellach yn rhan o seremoni wobrwyo Rhagoriaeth Adeiladu Rheoli Adeiladu Awdurdodau Lleol De Cymru, a gaiff ei chynnal yng ngwesty’r Vale ym mis Ebrill.