MAE Aelod Cynulliad Plaid Cymru Simon Thomas wedi areithio ynglŷn â dyfodol y diwydiant amaeth yng Nghymru yn ystod Cynhadledd Amaeth a Ffair Ddysgu yng Nghampws y Gelli Aur, Coleg Sir Gâr heddiw.
Yn ei araith mae Simon Thomas yn rhybuddio gwleidyddion o Lundain am geisio gwrthdrodatganoli yn sgil y broses o adael yr Undeb Ewropeaidd.
Meddai’r Ysgrifennyddd Cabinet cysgodol dros Faterion Gwledig, AC y Canolbarth a’r Gorllewin, Simon Thomas:
“Mae amaeth Cymru yn wynebu’r sefyllfa fwyaf heriol ers yr ail ryfel byd, ac yn sicr nid oes neb heddiw a all gofio sefyllfa fwy cyfnewidiol neu gyfnod lle bu mwy o ansicrwydd ynghlyn a dyfodol y diwydiant.
“Mae llawer o’r heriadau yn deillio o’r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd ond rhai hefyd yn deillio o newidiadau yn y ffordd rydym yn bwyta, masnachu ac yn meddwl am ein cefn gwlad a’r amgylchfyd. Nid y lleiaf o’r rheina yw newid hinsawdd.
“O edrych ar hyn credaf ei bod yn hynod bwysig ein bod chwilio am y ffyrdd gorau i gefnogi pobl ifainc mewn amaeth a gwneud amaeth yn ddiwydiant deniadol i bobl ifainc.
“Bydd angen syniadau a gwaed newydd arnom i fynd i’r afael a’r heriau hyn ac rwy’n awyddus iawn fod llywodraeth Cymru a’r Cynulliad Cenedlaethol yn annog pobl ifainc i fentro mewn amaeth.
“Mae’r diwydiant ffermio, a’r diwydiant bwyd a diod ehangach, yn holl-bwysig yng Nghymru o ran ein heconomi, ein ffordd o fyw ac er mwyn iechyd a llesiant ein poblogaeth.
“I fi, mae amaeth, a’r cyfle mae’n rhoi i ni i sirchau disteiniaeth gynaladwy o’n cefn gwlad, yn gonglfaen adeiladu cenedl.
Yn ei araith dywedodd Simon Thomas:
“Amaethyddiaeth yw’r sector sy’n wynebu’r ansicrwydd mwyaf yn sgil y penderfyniad i adael yr UE.
“Mae ansicrwydd ynglŷn a ariannu’r sector wedi Brexit, cytundebau masnach wedi Brexit ac ynglŷn a pwy fydd yn penderfynu ar ddeddfau a pholisïau ar gyfer y sector wedi Brexit – Cymru fel sydd ar hyn o bryd neu a fydd Llundain yn ceisio dwyn pwerau yn ol?
“Rydym tua 5% o boblogaeth y DU ond rydym yn derbyn bron 10% o’r gwariant Ewropeaidd o dan CAP yn y gwledydd hyn. Mae hyn yn adlewyrchu cymaint o Gymru sydd o dan anfantais amaeth wrth gymharu a llefydd eraill. Rhaid brwydro i gadw pob ceiniog.
“Rhaid hefyd amddiffyn masnach ac allforion – ymladd dros mynediad llawn heb dollau i farchnadoedd Ewrop a sicrhau nad yw ffermwyr yn wynebu rhwystrau masnach.
“Rwyf o’r farn fod rhaid i Gymru, drwy’r Cynulliad, gytuno i unrhyw gytundebau masnach allanol cyn iddynt gael eu harwyddo. Byddai hyn yn sicrhau na fyddent yn andwyol i fuddiannau ein ffermwyr ni a’n hamgylchedd.
“Yn yr un ffordd credaf fod rhaid i ni gytuno fframwaith Brydeinig ar gyfer amaeth ar y cyd gyda’r Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon a gwrthod unrhyw ymgais i orfodi sustem arnom gan Lundain.
“Mae amaeth wedi’i datganoli i Gymru a phleidleisiodd pobl Cymru o blaid hynny yn ein refferendwm ni yn 2011. Nid oedd y refferendwm i adael yr UE yn refferendwm i dynnu pwerau oddiar y Cynulliad.
“Nid yw’n glir, ar hyn o bryd, faint o fewnbwn bydd Llywodraeth a Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ei gael yn y broses yma.
Pwysleisiodd cynllun newydd ddyfodiaid i’r sector:
“Rwyf i a Phlaid Cymru newydd llwyddo i sicrhau £6m ar gyfer cynllun grant ffermwyr ifainc dros y ddwy flynedd nesaf i sicrhau bod newydd ddyfodiaid yn dod i mewn i’r diwydiant i gefnogi dyfodol hir-dymor y sector.
“Mae hyn yn rhan o’m hymdrechion i sicrhau bod y sector yn barod i wynebu sialensiau Brexit a’r newidiadau demograffig ehangach.
“Rhan o’m gweledigaeth am Gymru gynaliadwy, annibynnol yw i ni fuddsoddi yn y genhedlaeth nesaf yn awr, gan mai hwy fydd yn adeiladu ac yn datblygu ein hadnoddau naturiol cyfoethog ac yn gwneud hynny mewn ffordd fydd yn batrwm i’r byd,”