CYFLE i fynd ar daith greadigol am ddim ym mis Mawrth.
Mae Amgueddfeydd Sir Gaerfyrddin wedi trefnu Gweithdai Llesiant y Gaeaf ym Mharc Howard rhwng 15 Mawrth a 18 Mawrth.
Bydd y gweithdai, a fydd yn cael eu cymryd gan yr artistiaid Cheryl Beer a Louise Bird, yn tywys y cyfranogwyr ar daith greadigol ar eu cyflymder eu hun.
Mae’r Gweithdai Llesiant wedi’u trefnu i ddathlu Wythnos Genedlaethol Amgueddfeydd a Llesiant, ac maent am ddim, yn agored i bawb ac nid oes angen dim profiad blaenorol.
Mae Wythnos Amgueddfeydd a Llesiant yn cael ei chydgysylltu gan Gynghrair Genedlaethol Amgueddfeydd, Iechyd a Llesiant, er mwyn amlygu’r manteision iechyd sydd ynghlwm wrth ymweld ag amgueddfeydd, ymgysylltu â diwylliant a bod yn greadigol.
Mae gan Barc Howard gysylltiadau hanesyddol ag iechyd a llesiant, gan y bu’n safle Ysbyty’r Groes Goch o 1915. Yn ddiweddarach bu’n ganolfan adsefydlu hyd at 1924 gan ei fod yn fan delfrydol i bobl wella a chael hoe mewn heddwch.
Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol sydd â chyfrifoldeb dros hamdden: “Mae Parc Howard yn lle delfrydol i gynnal gweithdai creadigol fel y rhain, gan fod ei leoliad hardd yn ysbrydoliaeth i’r rheiny sy’n cymryd rhan.”
Mae pob Gweithdy Llesiant y Gaeaf yn rhedeg o 11am tan 4pm. I neilltuo lle, cysylltwch ag Amgueddfeydd Sir Gaerfyrddin drwy ffonio 01267 228696 neu drwy anfon e-bost at amgueddfeydd@sirgar.gov.uk