Sunday, April 2, 2023
Gwasanaethau’r cyngor ar flaenau’ch bysedd

Gwasanaethau’r cyngor ar flaenau’ch bysedd

MAE mwy o wasanaethau’r cyngor bellach ar gael trwy wasgu botwm, wrth i wefan newydd Cyngor Sir Gaerfyrddin gael ei lansio.

Wrth i nifer y bobl sy’n defnyddio’r wefan barhau i dyfu, mae’r cyngor yn sicrhau ei bod yn haws i bobl gael gafael ar wybodaeth ac adrodd am faterion ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos.

Mae’r wefan newydd – www.sirgar.llyw.cymru – wedi’i chynllunio i helpu pobl i ddod o hyd i’r hyn y maen nhw’n chwilio amdano yn gyflym, a thynnir sylw at bynciau amserol ar draws y wefan.

Mae’n hollol ymatebol i ddyfeisiau symudol sy’n golygu bydd gwybodaeth y cyngor ar gael ar ffonau clyfar, llechi digidol a dyfeisiau eraill.

Mae’r tîm marchnata a’r cyfryngau yn y cyngor hefyd wedi gweithio gyda grwpiau ffocws i sicrhau bod y wefan newydd yn hygyrch, gan gynnwys nodweddion sy’n caniatáu i bobl glywed y wefan yn cael ei darllen ar goedd gan raglen darllen sgrin, neu gyfieithu’r wefan i’w hiaith ddewisol.

Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd ac Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Farchnata a’r Cyfryngau: “Ar gyfartaledd, mae ein gwefan yn cael 3,560 o drawiadau pob dydd, ac mae nifer yr ymwelwyr yn parhau i dyfu. Bydd y wefan newydd yn sicrhau ei bod yn haws i drigolion gael y wybodaeth sydd ei hangen arnynt, pan fo’i hangen ac yn y modd y maen nhw’n dymuno, boed ar ffôn symudol, llechen ddigidol neu gyfrifiadur bwrdd gwaith.

“Yn seiliedig ar sylwadau gan ymwelwyr a dadansoddwyr, rydym wedi sicrhau ei bod yn haws i bobl ddefnyddio ein gwasanaethau mwyaf poblogaeth gyda chyn lleied o gliciau â phosibl – bellach, gallant edrych i weld pa ddiwrnod y bydd y sbwriel yn cael ei gasglu, a pha liw, er enghraifft.

“Er ein bod yn deall y bydd nifer o bobl yn dymuno siarad ag aelod o staff yn ystod oriau arferol y swyddfa, i lawer o bobl mae cyfleustra’r wefan yn golygu ei bod yn haws cysylltu â ni ac rydym ni’n falch iawn o gael lansio ein gwefan newydd a fydd yn addasu ac yn datblygu wrth i anghenion a diddordebau pobl newid.”

 Rydym yn ychwanegu at ein gwasanaethau ar-lein bob amser. Os oes gennych unrhyw awgrymiadau ynghylch gwasanaethau’r Cyngor yr hoffech eu cael ar-lein, hoffem glywed gennych – cysylltwch â  digidol@sirgar.gov.uk  neu ffoniwch 01267 234567

You May Have Missed

You are in breach of copyright
%d bloggers like this: