Monday, March 20, 2023

Grwpiau ffocws yn cael eu cynnal ledled Sir Gaergyrddin

BYDD grwpiau ffocws yn cael eu cynnal ledled Sir Gaerfyrddin er mwyn ystyried y ffyrdd y gall busnesau a chymunedau gymryd rhan mewn digwyddiadau lleol ac elwa arnynt.

Mae tîm Marchnata a’r Cyfryngau Cyngor Sir Caerfyrddin yn cynnal tri grŵp ffocws fel rhan o’i Gylch Trefnwyr Digwyddiadau a ariennir gan Raglen LEADER y Cynllun Datblygu Gwledig, a sefydlwyd er mwyn helpu trefnwyr digwyddiadau i sicrhau bod eu digwyddiadau’n gwella ac yn tyfu.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Mae digwyddiadau’n gallu cael effaith sylweddol ar economi tref.

“Gellir manteisio ar hyn ymhellach os bydd yr holl wahanol grwpiau sy’n rhan o’r dref yn cymryd rhan yn eu digwyddiadau lleol, a gall hyn hefyd

wella profiad ymwelwyr yn fawr.

Ymlaen at weld cynifer o fusnesau, grwpiau ac unigolion ag sy’n bosibl yn dod i’r grwpiau ffocws, er mwyn ystyried y ffyrdd y gallwn weithio gyda’n gilydd wrth symud ymlaen.”

Cynhelir cyfarfodydd y grwpiau ffocws yn Neuadd Cawdor (Tŵr y Cloc), Castellnewydd Emlyn, ddydd Llun 26 Chwefror; Yr Atom, Stryd y Brenin, Caerfyrddin, ddydd Iau 1 Mawrth, a Gwesty’r Castell, Llanymddyfri, ddydd Mawrth 6 Mawrth. Bydd pob digwyddiad yn cael ei gynnal rhwng 6pm ac 8pm, a’r siaradwyr gwadd fydd trefnwyr digwyddiadau cymunedol profiadol.

Mae’r holl ddigwyddiadau am ddim. Os hoffech fynychu, dylech anfon neges e-bost at marketing@sirgar.gov.uk

Caerfyrddin: http://bit.ly/2nstd9n
Llanymddyfri: http://bit.ly/2EzmNwJ
Caerfyrddin: http://bit.ly/2nstd9n
Llanymddyfri: http://bit.ly/2EzmNwJ

You May Have Missed

You are in breach of copyright
%d bloggers like this: