
Mae Sir Gaerfyrddin yn elwa ar grant gwerth £266,000 i gefnogi gweithio ‘ysgol i ysgol’ trwy ddatblygu gallu ac ymarfer da tu mewn i glystyrau o ysgolion.
Defnyddir y cyllid hefyd i secondio penaethiaid ac uwch-arweinwyr i arwain Ymarfer Gorau Ysgol Fach a Gwledig ac ar gyfer prosiectau arloesol sy’n canolbwyntio ar feysydd sydd ag angen penodol.
Mae cyllid ychwanegol wedi cael ei rannu rhwng rhyw 36 o ysgolion ar draws yr awdurdod i wella gallu penaethiaid ac uwch-arweinwyr i ganolbwyntio ar elfennau o wella strategol ysgolion.
Mae awdurdodau lleol ledled Cymru wedi bod yn cyflwyno ceisiadau am ran o’r cyllid gwerth £2.5m ar ôl i’r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, gyhoeddi’r pecyn cymorth ym mis Tachwedd y llynedd. Diben y pecyn yw annog arloesi a chefnogi mwy o gydweithio rhwng ysgolion.
Mae hyn yn cynnwys defnyddio technoleg ddigidol i fynd i’r afael â phroblem ynysu proffesiynol, darparu cymorth gweinyddol yn yr ysgolion lle mae gan y pennaeth ddyletswyddau addysgu sylweddol, cefnogi cydweithredu rhwng ysgolion a’u ffederaleiddio, a lle bo hynny’n bosibl a bod galw amdano’n lleol, defnyddio cyfleusterau ysgolion at ddibenion cymunedol.
Dywedodd y Cyng. Glynog Davies, yr aelod o’r bwrdd gweithredol dros addysg a gwasanaethau plant: “Rydyn ni wrth ein boddau i groesawu’r cymorth ychwanegol hwn ar gyfer ein hysgolion bach ac ysgolion gwledig. Bydd y cyllid yn rhoi cyfleoedd gwerthfawr i ddatblygu ystod eang o weithio mewn partneriaeth trwy brosiectau i wella ysgolion penodol, wedi eu dylunio’n gyfan gwbl i gefnogi ein dysgwyr yn Sir Gaerfyrddin.”
Dywedodd Kirsty Williams: “Mae ysgolion bach ac ysgolion gwledig yn chwarae rôl bwysig yn ein cenhadaeth genedlaethol i godi safonau ac ehangu cyfleoedd i’n pobl ifanc i gyd.
“Bydd y cymorth ariannol hwn yn helpu ysgolion i weithio gyda’i gilydd er lles disgyblion, athrawon a’r gymuned ehangach. Rydw i am weld ysgolion gwledig yn gweithio’n fwy ffurfiol gyda’i gilydd ac ar draws y wlad, gan ffurfio ffederasiynau ac ystyried y posibilrwydd o rannu adeiladau â gwasanaethau eraill, er mwyn sicrhau y bydd dyfodol i adeiladau ysgol.”